Mae Siân Gwenllian AS a Hywel Williams AS wedi croesawu’r newyddion y bydd cwmni gofal iechyd Siemens Healthineers yn creu bron i 100 o swyddi newydd o safon yn Llanberis.

Bydd Siemens Healthineers, gyda chymorth Llywodraeth Cymru, yn buddsoddi mewn canolfan ragoriaeth newydd ar gyfer gofal iechyd yn Llanberis, a fydd yn diogelu’r 400 o swyddi presennol ac yn creu bron i gant o swyddi newydd o ansawdd uchel ar gyflogau uwch nag arfer.

Bydd Siemens Llanberis yn dod yn ganolfan weithgynhyrchu fyd-eang ar gyfer technoleg dadansoddi gwaed y cwmni, a chaiff y cynhyrchion a gynhyrchir yno eu defnyddio ar draws y byd i i wneud diagnosis o gyflyrau meddygol.

Byddan nhw’n cyfuno eu gweithrediadau byd-eang yn cynhyrchu technoleg dadansoddi gwaed, IMMULITE®, a gaiff ei defnyddio’n fyd-eang i roi diagnosis o gyflyrau meddygol, yn eu safle yng Ngwynedd.

Bydd y buddsoddiad hwn yn trawsnewid y safle yn gyfleuster ymchwil a datblygu ar gyfer diagnosteg, gan alluogi i gynhyrchion diagnostig manwl gwell gael eu datblygu i’w defnyddio i sicrhau’r gofal iechyd gorau posib i gleifion.

Mae’r buddsoddiad i sefydlu canolfan ragoriaeth ar gyfer ymchwil a datblygiad a gweithgynhyrchu yn y gwyddorau iechyd yn alinio â’r Rhaglen Lywodraethu, sydd am adeiladu economi yn seiliedig ar egwyddorion gwaith teg, cynaliadwyedd a diwydiannau a gwasanaethau’r dyfodol.

‘Newyddion gwych i’r ardal gyfan’

“Mae hyn yn newyddion gwych i’r ardal gyfan, ac i’w groesawu’n fawr yng nghanol yr holl ddiflastod economaidd presennol,” meddai Siân Gwenllian, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Arfon.

“Mae gan Lanberis hanes hir o arloeseddedd gan gynnwys yn y diwydiant llechi yn ogystal â phŵer trydan dŵr.

“Diolch yn fawr i’r Arglwydd Dafydd Wigley, Osborn Jones ac eraill a fu’n rhan o’r weledigaeth hon a ddaeth â ffatri Siemens i Lanberis dros ddeng mlynedd ar hugain yn ôl.

“Mae’n wych gwybod bod cynhyrchion a gynhyrchir ar safle Llanberis yn cael eu defnyddio ar draws y byd i helpu i wneud diagnosis o gyflyrau meddygol.

“Mae’r gweithlu lleol yn gwbl falch o chwarae rhan enfawr wrth helpu eraill ym mhob rhan o’r byd trwy eu gwaith beunyddiol.

“Llongyfarchiadau gwresog iddynt, i’r cwmni, i Lywodraeth Cymru ac i bawb fu’n rhan o’r datblygiad diweddaraf cyffrous hwn sy’n golygu bod safle Llanberis yn ddiogel am flynyddoedd lawer i ddod.”

‘Cam sylweddol ymlaen i Siemens’

“Mae’r cyhoeddiad hwn yn gam sylweddol ymlaen i Siemens ac yn nodi buddsoddiad sylweddol arall gan y cwmni yn yr economi leol, gan ddod â thua chant o swyddi medrus i’r ardal – buddsoddi a chreu cyflogaeth ar adeg pan mae ein heconomi yn mynnu cefnogaeth,” meddai Hywel Williams, Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Arfon.

“Llongyfarchiadau i Siemens ar eu llwyddiant wrth wireddu eu cynlluniau.

“Mae’n glod i ansawdd eu gwaith fod galw mawr am eu cynnyrch.”

 

Canolfan ragoriaeth newydd ar gyfer gofal iechyd yn Llanberis

Bydd yn creu swyddi newydd, yn ogystal â chefnogi datblygu sgiliau a darparu cyfleoedd hyfforddi newydd