Mae hi’n “adeg ddyrys i fusnesau” yn ôl cyfarwyddwr bragdy sydd wedi bod yn siarad gyda golwg360 yn sgil y cynnydd yn y cap ar brisiau ynni.

Daw hyn ar ôl i Ofgem gyhoeddi y bydd y cap yn cynyddu 80% ym mis Hydref.

Dywed Robat Jones, cyfarwyddwr Bragdy Lleu ym Mhenygroes, ei bod hi’n “anodd dallt yn union sut mae hyn wedi cael digwydd” tra bod “shareholders y cwmnïau mawr yma yn mynd yn fwy cyfoethog bob blwyddyn”.

Ac wrth ymateb fore heddiw (dydd Gwener, Awst 26), dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford “fod angen cyllideb frys a bod rhaid rhewi pris egni a threthi’r busnesau olew a nwy”.

Yn y cyfamser, dywed Llywodraeth y Deyrnas Unedig y byddai “cymorth uniongyrchol yn parhau i gyrraedd pocedi pobol sydd ei angen fwyaf, megis aelwydydd incwm isel, pensiynwyr a phobl ag anableddau, dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf”.

‘Angen cefnogi busnesau’

Fodd bynnag, mae angen i’r Llywodraeth gefnogi busnesau hefyd, yn ôl Robart Jones.

“Mae hi’n adeg ddyrys i fusnesau yn gyffredinol,” meddai wrth golwg360.

“Ac mae cwmni fatha bragdy yn eithaf trwm ar drydan efo’r cynhesu a’r oeri sydd angen cael ei wneud i baratoi’r cwrw.

“Felly mae o yn peri pryder i ni.

“Rydan ni’n gobeithio na fydd rhaid i ni godi prisiau, ond mae angen i’r Llywodraeth roi mewnbwn er mwyn helpu unigolion, i helpu cartrefi a busnesau.

“Does yna neb eisiau codi prisiau felly rydan ni’n gobeithio na fydd rhai gwneud hynny.

“Mae’n anodd dallt yn union sut mae hyn wedi cael digwydd, hanner stori rydan ni’n cael ar y gorau.

“A phan ti’n clywed am yr elw enfawr mae’r cwmnïau ynni yma yn ei wneud, mae o’n gwneud i chdi feddwl a oes yna help go iawn ar gael.

“Mae’r cwmnïau mawr ‘ma yn mynd yn fwy cyfoethog bob blwyddyn a’r un hen stori bod busnesau bach ac unigolion yn gorfod pigo’r bil i fyny bob tro.

“Mae o’n rhwystredig.

“Beth rydan ni wedi trio ei wneud ydi rhagweld hyn i ryw raddau.

“Rydan ni wedi buddsoddi mewn paneli solar a fan danfon trydan fel ffordd i drio lleihau’r effaith arnom ni a thrio sicrhau ein bod ni’n gallu cadw prisiau’n gystadleuol.

“Mae honno yn ffordd ymlaen, ond mae angen mwy o help gan y Llywodraeth i annog pobol i wneud pethau felly hefyd.

“Mi fasa grantiau ac ati gan y Llywodraeth yn ffordd dda o annog busnesau i wneud hynny.

“Maen nhw’n bethau digon hawdd i gael gafael arnyn nhw ac mae yna lot o bobol wedi cymhwyso’n lleol yn y fan yma a drwy’r wlad.

“Dw i’n meddwl bod busnesau yn awyddus i osod pethau fel yna ond mae angen help ariannol arnyn nhw i wneud hynny.”

“Dim dewis” ond codi prisiau

Yn y cyfamser mae Karen Jones, sy’n berchen ar gaffi’r Gegin Fach yng Nghaernarfon, yn dweud nad oedd ganddi “ddim dewis” ond codi ei phrisiau o ganlyniad i’r cynnydd costau ynni.

Y Gegin Fach, Caernarfon

“Ydw, dw i yn poeni,” meddai wrth golwg360.

“Yn enwedig efo prisiau trydan a nwy ac ati.

“Mae prisiau bwyd wedi codi’n ofnadwy hefyd.

“Rydan ni wedi codi ein prisiau yn ddiweddar oherwydd costau, ond roedden ni’n trafod hyn bore ‘ma a does gen i ddim dewis ond eu codi nhw eto.

“A dwi’n poeni braidd y bydd llai o gwsmeriaid yn dod i mewn.

“Yr un peth dw i’n reit ffodus ohono fo ydi bod gen i lot o regulars sy’n licio dod yma.

“Dw i reit falch o hynny a dw i’n gobeithio y byddan nhw’n dal i ddŵad, ond dw i’n deall bod sefyllfa pawb yn anodd ar hyn o bryd.”