Ar drothwy Gŵyl y Banc, mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a Thrafnidiaeth Cymru wedi cydweithio ar system technoleg rheoli parcio uchelgeisiol mewn meysydd parcio poblogaidd o amgylch Yr Wyddfa ac yn Ogwen.

Bydd y system yn cael ei gweithredu fel rhan o Strategaeth Parcio a Thrafnidiaeth Yr Wyddfa ac Ogwen i reoli mynediad a pharcio yn rhai o ardaloedd mwyaf poblogaidd y Parc Cenedlaethol.

Fe fydd yn rhan o ymagwedd hirdymor twristiaeth gynaliadwy Partneriaeth Yr Wyddfa, sy’n anelu i wella profiad ymwelwyr trwy leihau’r effeithiau amgylcheddol a gwarchod cymunedau lleol.

Bydd dros 500 o synwyryddion yn monitro safleoedd meysydd parcio er mwyn cyflwyno gwybodaeth fyw i ymwelwyr fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau gwybodus am lefydd parcio gwag, yn hytrach na gyrru o gwmpas y Parc Cenedlaethol yn chwilio am fan parcio.

Bydd y wybodaeth yn cael ei chyflwyno ar wefan yr Awdurdod ac ar yr ap Smart Parking.

Mae’r Awdurdod hefyd yn bwriadu datblygu system fydd yn cynnwys map byw rhyngweithiol yn dangos faint o lefydd parcio sydd ar gael, gwybodaeth am gyfleusterau ym meysydd parcio’r Awdurdod, a’r gallu i gysylltu gydag ap rhagarchebu safle parcio mewn meysydd dynodedig.

Strategaethau cynaliadwy

“Mae cydweithio gyda Thrafnidiaeth Cymru a Smart Parking yn galluogi’r Awdurdod i gael mynediad at ddata tueddiadau a defnydd yn ein meysydd parcio fydd yn ein galluogi i ddatblygu strategaethau cynaliadwy ymhellach,” meddai Angela Jones, Rheolwr Partneriaethau APCE.

“Rydym yn parhau i weld cynnydd mewn niferoedd ymwelwyr yn dilyn cyfyngiadau’r coronafeirws a’r pwysau ychwanegol mae arosiadau byr yn ei achosi.

“Ein nod yw gwella profiad yr ymwelydd tra ar yr un pryd yn gwarchod ein tirweddau, a chymunedau lleol trwy welliannau eang i’r rhwydwaith drafnidiaeth yn Eryri.

“Bydd y prosiect hwn yn cyfrannu’n fawr tuag at y dyheadau hynny.”

‘Un o heriau mwyaf yr ardal’

“Mae datblygu atebion i broblemau parcio o gwmpas Yr Wyddfa ac Ogwen yn un o heriau mwyaf yr ardal ac rydym yn falch o gefnogi Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn eu strategaeth i wella mynediad a hybu mwy o ddefnydd o drafnidiaeth gynaliadwy,” meddai Lee Robinson, Cyfarwyddwr Datblygu Trafnidiaeth Cymru ar gyfer y gogledd, y canolbarth a Chymru Wledig.

Mae’r dechnoleg gyfoes yma sydd wedi ei ddatblygu gan Smart Parking yn un o nifer o atebion fydd yn weithredol gan gynnwys  gwelliant mewn gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus a chysylltiadau teithio.”

Caffi yn Eryri’n penderfynu cau dros ŵyl y banc yn sgil trafferthion parcio

Cadi Dafydd

“Os ydy pobol yn bwcio bwrdd, troi fyny am eu bwyd, a methu â chael rhywle i barcio, yn y dyfodol fyddan nhw’n meddwl ddwywaith cyn bwcio efo ni eto”