Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn dathlu 200 mlynedd o addysg uwch yng Nghymru heddiw (dydd Gwener, Awst 12), gyda chyfres o ddigwyddiadau arbennig.

Cafodd y garreg sylfaen ar gyfer Coleg Dewi Sant yn Llanbed ei gosod ar Awst 12, 1822.

Dyma oedd dechrau addysg uwch yng Nghymru, ac i gofio’r diwrnod arbennig hwn yn hanes addysg yng Nghymru, bydd nifer o ddathliadau.

Bydd y cyfan yn dechrau am 11.30yb gyda gwasanaeth arbennig yn Eglwys San Pedr, cyn gorymdeithio i’r campws am 12.30yp.

Am 1 o’r gloch, bydd cofeb yn cael ei dadorchuddio a bydd arddangosfa’n cael ei hagor cyn cinio arbennig yn Neuadd Lloyd Thomas, gyda chyfle i ymweld â hi, i weld y garreg sylfaen, i fynd i lansiad y gyfrol Trysorau: Casgliadau Arbennig Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant – cyfrol sydd wedi’i golygu’n arbennig ar gyfer yr achlysur gan yr Athro John Morgan-Guy – ac i gael taith o’r campws.

Trysorau

Yn ystod digwyddiad arbennig ar stondin y Brifysgol ar Faes yr Eisteddfod, roedd lansiad swyddogol y gyfrol Trysorau: Casgliadau Arbennig Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.

Mae’r gyfrol newydd, sy’n llawn darluniadau, yn cynnwys detholiad o blith y miloedd lawer o drysorau sydd wedi’u cadw yn Llyfrgell Roderic Bowen ar gampws y brifysgol yn Llanbed.

Mae’r casgliadau arbennig yn cynnwys dros 35,000 o weithiau wedi’u hargraffu, wyth llawysgrif o’r Oesoedd Canol, tua 100 o lawysgrifau o’r cyfnod wedi’r Oesoedd Canol, a 69 o incwnabwla.

“Dyma’r sefydliad colegol addysg uwch hynaf yng Nghymru, ac yn ei ddau gan mlynedd o hanes mae wedi derbyn llawer o lawysgrifau hynod ddiddorol a phrin, llyfrau printiedig cynnar, cyfrolau darluniadol hardd, a chyhoeddiadau prin o ddalenni i gyfnodolion,” meddai’r Athro John Morgan-Guy.

“Derbyniwyd y rhain yn bennaf trwy roddion hael nifer o gymwynaswyr, gan gynnwys sylfaenydd y sefydliad, yr Esgob Thomas Burgess o Dyddewi, gyda’r casgliad yn cael ei gadw heddiw yn Llyfrgell Roderic Bowen ar gampws Llanbed.

“Mae’r gyfrol lawn darluniadau hon yn cynnwys detholiad o blith y miloedd lawer o drysorau sy’n rhychwantu mwy na saith can mlynedd, gydag ysgrifau byrion sydd wedi’u hysgrifennu gan ysgolheigion sydd â gwybodaeth a gwerthfawrogiad dihafal o’r gwaith dan sylw, y mae eu gwybodaeth a’u gwerthfawrogiad o’r gweithiau heb eu hail, yn datgelu cyfoeth yr hyn a elwid unwaith yn ‘llyfrgell fach fwyaf Cymru’.”

‘Blwyddyn allweddol’

Dywed yr Athro Medwin Hughes fod y gyfrol yn cael ei lansio “yn ystod y flwyddyn allweddol hon o nodi daucanmlwyddiant sefydlu’r brifysgol”.

“Mae’r hyn sydd gyda ni yn dapestri o lawysgrifau a llyfrau sy’n allweddol i ddeall diwylliant a hanes Cymru,” meddai.

“Mae’n gyfle i edrych yn ôl wrth gwrs ond yn bwysicach na hynny, mae’n gyfle i edyrch at y dyfodol a gofyn y cwestiwn beth sydd angen felly ar Gymru i greu cyfleoedd a phartnariaethau newydd sy’n dathlu ein diwylliant ac sy’n dehongli ein diwylliant ni mewn ffordd fodern ddigidol?

“Dyna’r her, ac rwy’n siŵr y bydd Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn chwarae rôl yn hyn hefyd.”

Penllanw pedair blynedd o waith

Mae cyhoeddi’r llyfr hwn yn benllanw pedair blynedd o waith i’r Llyfrgell ac Adnoddau Dysgu.

“Rwyf am achub ar y cyfle hwn i ddiolch i bob aelod o’r tîm sydd wedi cyfrannu at lwyddiant y prosiect,” meddai Alison Harding, Pennaeth Gweithredol Llyfrgelloedd ac Adnoddau Dysgu y Drindod Dewi Sant.

“Yn benodol, hoffwn nodi’r cydweithwyr hynny sydd wedi’u lleoli yn ein Casgliadau Arbennig ac Archifau, na fyddai’r llyfr hwn wedi bod yn bosibl hebddynt.

“Mae eu hymrwymiad rhyfeddol a’u proffesiynoldeb drwy gydol y prosiect hwn wedi amlygu gwerth eu gwaith, a’r rôl allweddol y maent yn ei chwarae wrth sicrhau bod y casgliadau hyn yn cael gofal a’u bod yn hygyrch i bawb.

“Dyma hefyd oedd ein cyfle i arddangos llawenydd a harddwch y casgliadau hyn, a’u rôl wrth lunio’r brifysgol, y gymuned y mae’n ei gwasanaethu a’r genedl ehangach.”

‘Anrhydedd fawr’

“Mae’n anrhydedd mawr i Wasg Prifysgol Cymru gyhoeddi’r gyfrol drawiadol ac unigryw hon ar y cyfoeth a ddaliwyd yn llyfrgell Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn Llanbedr Pont Steffan,” meddai Natalie Williams, Cyfarwyddwr Gwasg Prifysgol Cymru.

“Mae manylder a harddwch gweledol cymaint o weithiau a atgynhyrchir yn y llyfr hwn, ynghyd â’u hanes hynod ddiddorol o ardaloedd ar draws y byd, yn wirioneddol arbennig.

“Rydym wrth ein bodd ein bod wedi gweithio gyda thîm mor wybodus i ddwyn y gyfrol hon i ffrwyth.”