Mae de-ddwyrain Cymru yn wynebu risg “eithriadol” o danau gwyllt wrth i rybudd gwres oren ddod i rym, gyda rhan helaeth o’r de a Phowys yn wynebu risg “uchel iawn” hefyd.

Daw hyn wrth i’r Swyddfa Dywydd gyhoeddi rhybudd oren am wres rhwng heddiw (dydd Iau, Awst 11) a dydd Sul (Awst 14), a allai weld y tymheredd yn cyrraedd 36 gradd selsiws yn y dwyrain.

Mae’r Swyddfa Dywydd hefyd wedi codi’r Indecs Difrifoldeb Tân i ‘eithriadol’, sef y lefel uchaf.

Mae’n cynnwys llawer o dde Lloegr, ond mae hefyd yn ymestyn mor bell i’r gorllewin â Threfynwy.

Dywed Marco Petagna, meteorolegydd yn y Swyddfa Dywydd, fod y risg o danau gwyllt yn uchel iawn.

“Wrth fynd i mewn i ddydd Gwener a’r penwythnos, mae’r risg yn cynyddu ymhellach, gan fynd i’r categori uchaf o risg eithriadol,” meddai.

Ac mae Mark Hardingham, cadeirydd y Cyngor Penaethiaid Tân Cenedlaethol yn dweud nad yw’n “gallu cofio haf fel hyn” yn ei yrfa, sy’n ymestyn dros 32 mlynedd yn y gwasanaeth tân.

“Dydyn ni ddim yn mynd i weld tymheredd mor boeth ag oedden ni’n ei weld dair wythnos yn ôl, ond dyw hynny ddim ots achos dyw’r ddaear methu mynd yn sychach nag yw e’n barod.”

“Mae tanau gwyllt mor gyffredin mewn ardaloedd trefol ag y maen nhw mewn cymunedau gwledig felly mae’n anodd gwybod lle fydd yr un nesaf.”

‘Angen glaw’

Dywed Marco Petagna y gallai glaw fod ar y gorwel ddechrau’r wythnos nesaf, serch hynny.

“Mae yna arwyddion y gallen ni gael ychydig o law’r wythnos nesaf, ond mae’r manylion ar hyn o bryd yn ansicr,” meddai.

Ychwanega fod angen “ychydig wythnosau” o law ysgafn ar y Deyrnas Unedig i ddyfrio’r tir.