Bydd teulu sy’n gobeithio adeiladu llety gwyliau ar eu fferm yng Ngheredigion yn gorfod aros tan fis nesaf i ddarganfod a fydd caniatâd cynllunio’n cael ei roi.

Cafodd cais i godi tair pod glampio ar dir ym Mhendre, Llanfihangel-y-creuddyn ei drafod ym mhwyllgor rheoli datblygu Awst Cyngor Sir Ceredigion.

Ar ôl clywed gan yr ymgeisydd Tom Evans, ynghyd â’r aelod lleol – y Cynghorydd Merion Davies – yn y cyfarfod ar Awst 10, pleidleisiodd y pwyllgor o blaid ymweld â’r safle cyn gwneud penderfyniad.

Mae swyddogion cynllunio wedi argymell gwrthod y cynllun “o ystyried pa mor uchel i fyny yw’r safle yng nghefn gwlad agored” a’r effaith weledol fyddai’n ei chael ar yr ardal.

Roedd trafodaeth yn y cyfarfod am sut y byddai symud y podiau yn is i lawr y safle yn effeithio ar hyfywedd y busnes.

Roedd hyn yn bwysig “gan gofio’r buddsoddiad” yn y busnes o tua £200,000, meddai’r Cynghorydd Geraint Wyn Hughes, tra ychwanegodd y Cynghorydd Meirion Davies mai’r cynllun yw “arallgyfeirio mewn maes ansicr iawn ar hyn o bryd ym myd amaeth.”

‘Cynnal cenedlaethau’r dyfodol’

Dywed Tom Evans na fu unrhyw wrthwynebiadau lleol i’r cynllun.

Bydd y podiau arfaethedig yn ddau faint – sy’n addas ar gyfer cyplau a theuluoedd – ac maen nhw’n unedau un llawr, clad pren, gyda thybiau poeth, wedi’u cynllunio i “wynebu’r olygfa”, medd adroddiad cynllunio.

“Ar ôl bod yn ffermio defaid ers deng mlynedd ym Mhendre rydym wedi gwneud y penderfyniad y byddem yn hoffi arallgyfeirio’r busnes oddi wrth ddibynnu ar werthu defaid i lety gwyliau,” meddai datganiad yn yr adroddiad.

“Rydym wedi gwneud y penderfyniad hwn oherwydd ansicrwydd y farchnad a chynnydd enfawr mewn costau.

“Rydym o’r farn mai dyma’r penderfyniad cywir i’w wneud er mwyn sicrhau bod y fferm yn hyfyw er mwyn cynnal cenedlaethau’r dyfodol ym Mhendre’.”