Roedd y sefyllfa yn Llanberis yn “bryderus iawn” neithiwr (nos Lun, Gorffennaf 18), wrth i “gannoedd” o bobol ifanc heidio i Lyn Padarn i fwynhau’r gwres, medd cynghorydd lleol.

Mae fideos yn dangos degau o bobol ar y pontŵn – a hwnnw’n sigo dan yr holl bwysau – wedi cael eu rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol.

Yn ôl y Cynghorydd Kim Jones, mae Cyngor Gwynedd wedi dweud wrthi y bydd rhaid cael gwared ar y pontŵn os yw’r sefyllfa’n parhau.

Mae llond tua phymtheg bag o sbwriel wedi cael eu casglu o’r ardal fore heddiw hefyd, ac mae Kim Jones yn annog rhieni i erfyn ar eu plant i beidio â mynd i Lyn Padarn heddiw.

Dylai unrhyw un sydd yn mynd yno barchu’r ardal, peidio ag yfed alcohol a mynd i’r dŵr, a mynd â bagiau sbwriel efo nhw, meddai.

Y sbwriel gafodd ei gasglu ar lannau Llyn Padarn fore heddiw (Gorffennaf 19)

“[Dw i’n] flin a siomedig. Roedd yna aelodau o’r Cyngor wedi bod yna neithiwr ar ôl i fi ffonio 101, ac roedd swyddogion y Cyngor yn honni bod tua 98% ohonyn nhw yn bobol leol Gymraeg,” meddai Kim Jones, cynghorydd Plaid Cymru ward Llanberis ar Gyngor Gwynedd, wrth golwg360.

“Roedd rhai o’r ymwelwyr oedd yna fore heddiw yn helpu fi i godi’r sbwriel.

“Fe wnaethon ni gasglu tua phymtheg bag, os nad mwy. Llwyth o farbeciws, llwyth o boteli gwydr, llwyth o ddillad nofio, tyweli, poteli dŵr. Roedd y lle’n ofnadwy.

“Dw i erioed wedi’i gweld hi mor brysur â hynna tan neithiwr.

“Mae o’n torri calon rhywun gorfod mynd yna i lanhau gymaint o sbwriel ar ôl pobol leol.”

Cymerodd hi tua dwyawr i Kim, gyda help rhai ymwelwyr a gweithwyr Snowdonia Watersports, i gasglu’r holl sbwriel, ac mae hi’n poeni y bydd pethau’r un mor ddrwg bore fory os nad yw pobol yn cadw draw.

‘Pryderus iawn’

Dywedodd Siân Gwenllian, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Arfon, fod sefyllfa’r pontŵn yn “bryderus iawn” neithiwr.

 

“Dw i’n pryderu, yn y diwedd fyddan nhw’n tynnu’r pontŵn oddi yna,” meddai Kim Jones wedyn.

“Roeddwn i’n meddwl bod o wedi torri ar un pwynt, dydy o heb.

“Mae’r rhan fwyaf o bobol yn ei ddefnyddio fo i nofio a chaiacio. Mae’r Snowdonia Water Sports yn ei ddefnyddio fo, a fydd o’n siomedig ofnadwy os ydy’r Cyngor yn penderfynu ei dynnu fo oddi yna.

“Mae o’n bryderus, roeddwn i’n siarad efo’r Cyngor bore yma ac roedden nhw’n dweud ‘Fydd rhaid inni jyst tynnu fo oddi yna os mai dyna’r achos’.”

‘Rhywun yn mynd i frifo’

Mae Kim Jones wedi bod yn erfyn ar Gyngor Gwynedd heddiw i gael wardeiniaid yno, a bydd adran o’r Cyngor yn monitro’r sefyllfa drwy’r dydd.

“Does yna ddim heddwas i Lanberis chwaith, mae’r agosaf yng Nghaernarfon. Dim ond PCSOs sydd gennym ni yma,” eglura.

“Mae’r Cyngor yn cael cyfarfod heddiw i weld be fedran nhw ei wneud jyst i drio cynnal y sefyllfa heddiw.”

Parc Padarn sy’n gyfrifol am y llyn, ac mae ganddyn nhw wardeiniaid, ond maen nhw’n gorffen eu gwaith am 5yp, yn ôl Kim Jones.

“Er tegwch iddyn nhw”, meddai, maen nhw wedi gofyn i Gyngor Gwynedd am arian i dalu aelod arall o staff, ond mae’r Cyngor wedi’u gwrthod.

Neges Kim Jones ar gyfer pobol sy’n ystyried mynd yno, ac i fannau naturiol eraill, yw defnyddio’r lle â pharch a mynd â bagiau bin efo nhw.

“Ac i rieni erfyn ar eu plant i beidio mynd yna, ar ôl gweld gymaint o lanast oedd yna ddoe mae o’n beryg,” meddai wedyn.

“Dydy pobol ddim i fod i wneud barbeciws yna chwaith. [Fyswn i’n] dweud wrth bobol fod yn ofalus, peidio gwneud barbeciws, mynd â bagiau bin efo nhw a gadael nhw wrth ochr y bin.

“Gobeithio bydd pobol yn trin o efo parch a rhoi pethau’n y bin. A pheidio yfed, mae’n beryg bod yn y dŵr ac yfed.

“Roedd yna gannoedd o blant ar y pontŵn, mae yna rywun yn mynd i frifo.”

‘Mwynhau’n ddiogel’

Dywedodd llefarydd ar ran cyngor Gwynedd eu bod nhw eisiau i bawb fwynhau “y ddarpariaeth wych sydd i’w gael yn Llanberis, yn enwedig pan mae’r tywydd yn braf, ond i wneud hynny yn ddiogel gan barchu’r gymuned leol a’r amgylchedd”.

“Galwyd staff allan i’r pontŵn ym Mharc Padarn nos Lun a daethpwyd i’r canfyddiad fod y strwythur yn ddiogel. Roedd ein swyddogion yn cydweithio â’n partneriaid o Heddlu Gogledd Cymru,” meddai llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd.

“Rydym hefyd yn annog pobl i ddefnyddio’r biniau sbwriel a’r adnoddau eraill sydd ar gael ar lannau’r llyn. Os ydi’r bin yn llawn ewch a’ch sbwriel gartref a’i waredu mewn ffordd gyfrifol.

“Rydym yn trafod y pryderon hyn efo’r aelod lleol ac yn edrych ar gamau posib gallwn eu cymryd i’r dyfodol.”