Bydd ymgyrchwyr amgylcheddol yn cynnal protest ger banc Barclays ym Mangor ddydd Sadwrn (Gorffennaf 9).

Byddan nhw’n ymgyrchu yn erbyn buddsoddiad parhaus y banc mewn prosiectau tanwydd ffosil, ac yn eu hannog i stopio eu hariannu.

Mae Barclays yn buddsoddi ym mhrosiect cwmni olew Shell i ddatblygu maes olew newydd o’r enw Jackdaw ym Môr y Gogledd.

Ddydd Sadwrn, bydd yr ymgyrchwyr yn awgrymu bod pobol yn defnyddio banciau eraill gyda “sgôr moesoldeb” uwch, fel Triodos neu Nationwide, a byddan nhw’n rhannu hadau blodau gwylltion.

Mae Barclays yn buddsoddi mwy nag unrhyw fanc arall yn Ewrop mewn prosiectau tanwydd ffosil, ac mae ymgyrchwyr yn dadlau nad yw Jackdaw yn cyd-fynd ag amcanion amgylcheddol rhyngwladol.

Maen nhw’n dadlau na fydd datblygu’r maes olew yn gwneud dim byd i leihau biliau ynni cartrefi nawr, a bod “elwon byrdymor cwmnïau tanwydd ffosil” yn cael eu blaenoriaethu ar draul pobol a’r blaned.

‘Ynni fforddiadwy a dibynadwy’

Dywed Helen McGreary, sy’n athrawes ddawns ac ymgyrchydd o Borthaethwy, ei bod hi’n “ofnadwy” bod gwyddonwyr wedi dweud dro ar ôl tro na allwn ni gael olew a nwy newydd, ond bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi caniatáu “prosiect arall wneith niweidio’r amgylchedd, a fydd yn creu yr un faint o lygredd â hanner poblogaeth yr Alban, neu holl boblogaeth Ghana”.

“Mae pobol y Deyrnas Unedig eisiau cyflenwad ynni fforddiadwy a dibynadwy sydd ddim yn rhoi’r blaned mewn perygl,” meddai.

“Dylai Llywodraeth y Deyrnas Unedig fuddsoddi mewn insiwleiddio tai neu mewn mesurau effeithlonrwydd ynni, yn hytrach na chymeradwyo prosiect fydd yn creu mwy o allyriadau na rhai gwledydd.

“Dyw hyn ddim yn ymwneud â diogelwch ynni.

“Pe bai hynny’n wir, byddem ni’n ôl-insiwleiddio tai. Mae wnelo hyn â Shell yn gwneud cymaint o arian â phosib tra eu bod nhw dal yn gallu.”

‘Cyn ei bod hi’n rhy hwyr’

“Dw i wedi aberthu fy nydd Sadwrn i wneud hyn oherwydd fy mod i’n credu y dylai ein gwleidyddion a’n llywodraeth gymryd yr argyfwng byd-eang hwn o ddifrif cyn ei bod hi’n rhy hwyr,” meddai Karen Breeze o Gaeathro ger Bangor.

“Maen nhw’n rhoi miliynau o arian trethdalwyr i gwmnïau olew sy’n gwneud miliynau i ehangu ac agor mwy o feysydd olew yn hytrach na buddsoddi mewn seilwaith gwyrddach ar gyfer trafnidiaeth.”

Bydd Alison Shaw, daearegwr o Gonwy sydd wedi ymddeol, yn cymryd rhan yn y brotest ym Mangor hefyd.

“Dw i’n ymgyrchu i gadw tanwydd ffosil yn y ddaear oherwydd byddai datblygu meysydd newydd yn drychinebus o ran effaith tymereddau cynyddol ar holl fywyd y Ddaear.”