Mae disgwyl i fyfyrwyr o Wcráin astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth yn dilyn cyhoeddiad am drefniant gefeillio newydd gyda Phrifysgol Economaidd Genedlaethol Odessa.

Cafodd Odessa ei sefydlu yn 1921, a bellach mae 10,000 o fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig yn astudio yno.

Mae’r cytundeb yn golygu y bydd cyfnewid myfyrwyr a staff rhwng Prifysgol Aberystwyth ac Odessa gyda’r ffocws ar economeg, cyfrifeg a busnes.

Bydd y garfan gyntaf o tua 20 o fyfyrwyr o Wcráin yn treulio cyfnod ar ddechrau mis Awst yn astudio yn Ysgol Fusnes Aberystwyth ac yn derbyn hyfforddiant iaith Saesneg yng Nghanolfan Saesneg Rhyngwladol y Brifysgol.

Mae cynlluniau hefyd yn eu lle i ail grŵp o fyfyrwyr ymuno â Phrifysgol Aberystwyth ar gyfer semester cyntaf y flwyddyn academaidd newydd, Medi 2022 i Ionawr 2023.

Yn ogystal, mae disgwyl i hyd at chwe aelod o staff academaidd ddod gyda nhw a byddant yn addysgu ym Mhrifysgol Aberystwyth ac o bell i fyfyrwyr yn Odessa.

Llofnododd cynrychiolwyr o’r ddwy brifysgol Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth yng Nghynhadledd Gefeillio’r DU-Wcráin ddoe (dydd Mawrth, Mehefin 28).

Cyhoeddwyd 24 partneriaeth newydd yn y gynhadledd, sy’n golygu bod cyfanswm o 71 trefniant gefeillio rhwng prifysgolion yn y Deyrnas Unedig ac Wcráin wedi eu sefydlu ers i Grŵp Ymgynghori Cormack lansio’r fenter gyda chefnogaeth Prifysgolion y DU.

Mae Grŵp Ymgynghori Cormack wedi bod yn cefnogi prifysgolion ar draws Ewrop ers 22 mlynedd ac mae ganddo rwydwaith o dros 600 o brifysgolion maen nhw’n gweithio gyda nhw.

‘Perthynas hirdymor fuddiol’

Dywedodd yr Athro Tim Woods, Dirprwy Is-Ganghellor Dysgu, Addysgu a Phrofiad Myfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth: “Mae’r cytundeb a lofnodwyd gyda Phrifysgol Economaidd Genedlaethol Odessa yn gam pwysig wrth i ni weithio i helpu myfyrwyr y mae’r gwrthdaro dinistriol yn Wcráin wedi amharu ar eu hastudiaethau academaidd.

“Mae’r ddau sefydliad yn gweddu’n dda yn academaidd ac edrychwn ymlaen at groesawu myfyrwyr o Odessa i Aberystwyth yn y dyfodol agos fel y cam cyntaf i ddatblygu’r hyn yr ydym yn gobeithio y bydd yn berthynas hirdymor fuddiol.”

Yn ogystal â chyfnewid myfyrwyr a staff, mae cysylltiadau newydd yn cael eu creu rhwng Undeb Myfyrwyr Aberystwyth ac Odessa, ac mae cynlluniau’n cael eu datblygu i ddarparu offer a mynediad i adnoddau digidol.

Dywedodd yr Athro Kovalev Anatoly Ivanovich, Rheithor Prifysgol Economaidd Genedlaethol Odessa: “Fel rhan o fenter Grŵp Ymgynghori Cormack daeth Prifysgol Economaidd Genedlaethol Odessa yn rhan o’r Rhaglen Gefeillio, sy’n darparu ar gyfer sefydlu partneriaethau agos a chefnogaeth gan sefydliadau addysg uwch Prydain i sefydliadau addysg uwch Wcráin.

“Yn sgil ymddygiad ymosodol milwrol agored gan Ffederasiwn Rwsia, roedd angen i sefydliadau addysg uwch Wcráin, ac yn arbennig, Prifysgol Economaidd Genedlaethol Odessa, ddod o hyd i ffyrdd o oroesi.

“Mae gostyngiadau mewn cyllidebau a gallu myfyrwyr i dalu, ymadawiad llawer o athrawon a myfyrwyr dramor, yr angen i fod yn fwy ymwybodol o ddiogelwch, cynnal hwyliau a phwysau seicolegol ar staff – mae hyn oll yn tanlinellu pwysigrwydd mawr y gefnogaeth y mae’r rhaglen gefeillio hon a gychwynwyd gan Grŵp Ymgynghori Cormack, a Phrifysgol Aberystwyth yn ei gynnig i Brifysgol Economaidd Genedlaethol Odessa.”