Wrth ymateb i fuddugoliaeth y Democratiaid Rhyddfrydol yn etholaeth Tiverton a Honiton yn Nyfnaint, mae Jane Dodds, arweinydd y blaid yng Nghymru, yn dweud eu bod nhw’n cryfhau unwaith eto yn eu cadarnleoedd.

Mae hyn yn argoeli’n dda i’r blaid yn yr hen gadarnleoedd ym Mhowys, meddai.

Cododd y Democratiaid Rhyddfrydol o’r trydydd safle yn yr etholiad diwethaf i gipio’r sedd o fwy na 6,000 o bleidleisiau y tro hwn, gyda Richard Foord, cyn-swyddog gyda’r Fyddin, yn fuddugol ac yn cael ei ethol ar draul y Ceidwadwyr, oedd â mwyafrif o 24,000 ac o 27,086 dros y Democratiaid Rhyddfrydol y tro diwethaf.

Y Ceidwadwyr oedd wedi bod mewn grym yn yr etholaeth ers creu’r sedd sy’n draddodiadol o blaid Brexit, ond mae un sgandal ar ôl y llall a chyflwr yr economi i’w gweld wedi cael dylanwad ar bleidleiswyr.

Bu’n rhaid i Neil Parish, yr Aelod Seneddol, gamu o’r neilltu ar ôl gwylio pornograffi yn San Steffan.

Dyma drydedd buddugoliaeth y Democratiaid Rhyddfrydol mewn is-etholiad eleni, ar ôl iddyn nhw ennill yn Chesham ac Amersham ac yng Ngogledd Sir Amwythig.

Byddai shifft o 29.9% fel a gafwyd yn Tiverton a Honiton yn gweld y Democratiaid Rhyddfrydol yn ennill yn gyfforddus ym Mrycheiniog a Maesyfed ac yn Sir Drefaldwyn.

Mae tirwedd Dyfnaint yn debyg i Bowys, ac mae yno draddodiad o Ryddfrydiaeth ymhell cyn 2015.

Mae disgwyl i’r Democratiaid Rhyddfrydol gyhoeddi eu hymgeisydd ym Mrycheiniog a Maesyfed erbyn diwedd mis Awst.

Roedd gan Fay Jones, yr Aelod Seneddol presennol, fwyafrif o 7,000 y tro diwethaf, ond mae hi wedi parhau i gefnogi Boris Johnson yn ddi-wyro.

Dim ond un cynghorydd Ceidwadol sydd yn yr etholaeth erbyn hyn, tra bod gan y Democratiaid Rhyddfrydol 15.

‘Buddugoliaeth enfawr eto i’r Democratiaid Rhyddfrydol’

“Mae hon yn fuddugoliaeth enfawr eto i’r Democratiaid Rhyddfrydol,” meddai Jane Dodds.

“Hon yw ein trydedd buddugoliaeth mewn etholiad o fewn blwyddyn, ac mae’n amlwg fod y Democratiaid Rhyddfrydol yn ôl fel grym gwleidyddol difrifol.

“Mae graddau’r fuddugoliaeth neithiwr yn dangos yn enwedig pa mor ar ei hôl hi mae cymunedau gwledig yn teimlo yn sgil Plaid Geidwadol sydd ond yn canolbwyntio ar dde-ddwyrain Lloegr ac yn dangos cyn lleied o ddiddordeb mewn codi’r gwastad mewn cymunedau fel Dyfnaint, Sir Amwythig a Phowys.

“Does gen i ddim amheuaeth fod pleidleiswyr ym Mhowys yn teimlo’r un mor ddigalon a bod y Ceidwadwyr yn manteisio arnyn nhw â’r rheiny yn Nyfnaint.

“Dim ond mis diwethaf, fe welson ni’r dicter yn ymddangos yn y blwch pleidleisio pan ddaeth y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig yn blaid fwyaf Cyngor Powys.

“Mae pleidleiswyr mewn ardaloedd gwledig eisiau cynlluniau clir i wella’u bywydau ac yn gweld polisïau’r Democratiaid Rhyddfrydol, p’un a yw hynny’n bolisi i ehangu’r gostyngiad tanwydd gwledig i yrwyr yng nghefn gwlad, torri TAW i 17.5% neu sefyll i fyny dros ein ffermwyr yn ebryn difaterwch y Ceidwadwyr a Llafur.

“Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi’u gwreiddio’n ddwfn mewn ardaloedd gwledig a sefyll i fyny dros ein cymunedau, busnesau bach lleol, ffermydd, trefi a phentrefi, a byddwn yn parhau i weithio’n galed dros y blynyddoedd i ddod i gynnig gweledigaeth bositif i bobol Powys ar gyfer y dyfodol cyn yr etholiad cyffredinol nesaf.”