Bydd Llywodraeth Cymru’n cefnogi 1,200 o bobol ifanc i ddechrau eu busnesau eu hunain er mwyn meithrin entrepreneuriaeth ymysg pobol ifanc.

Yn ôl Vaughan Gething, Ysgrifennydd Economi Cymru, bydd cefnogi entrepreneuriaid ifainc yn rhan hanfodol o wneud Cymru’n wlad lle mae mwy o bobol ifanc yn teimlo’n hyderus wrth gynllunio eu dyfodol.

Cyhoeddodd e gyllid o £5m dros y tair blynedd nesaf i gyflawni’r agwedd hunangyflogaeth ar Warant Bobol Ifanc Llywodraeth Cymru.

Nod y Warant yw cynnig gwaith, addysg, hyfforddiant neu hunangyflogaeth i bawb o dan 25 oed yng Nghymru, ac mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod nhw’n “benderfynol na fydd unrhyw genhedlaeth ar goll o ganlyniad i’r pandemig”.

Wrth gyhoeddi’r newyddion, dywed Vaughan Gething fod annog oedolion ifainc i aros yng Nghymru drwy adeiladu eu gyrfaoedd a lansio busnesau yn “allweddol” wrth ailgynllunio’r economi ar ôl Covid.

“Rydym yn gweld hyn fel dechrau cyfnod newydd, a dyna pam rydym yn cymryd camau beiddgar i adeiladu economi fywiog sy’n rhoi cyfleoedd i bawb wrth i ni fuddsoddi mewn diwydiannau a gwasanaethau’r dyfodol,” meddai.

“Mae ein pobol ifanc yn allweddol i lwyddiant Cymru yn y dyfodol. Mae eu doniau, eu sgiliau a’u creadigrwydd yn hanfodol i sicrhau ein llwyddiant economaidd.

“Rwy’n benderfynol ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu fel llywodraeth i helpu i sicrhau’r manteision economaidd hirdymor y mae ein pobol ifanc i gyd yn eu haeddu i gyflawni eu potensial.

“Drwy weithio gyda’n gilydd tuag at y weledigaeth rydym wedi’i gosod ar gyfer Cymru wyrddach a thecach gallwn baratoi llwybr at ffyniant i bob person ifanc, waeth beth fo’i gefndir.”

Torri addewid

Mae Vaughan Gething yn dweud hefyd bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi torri eu haddewid i roi arian yr Undeb Ewropeaidd y byddai Cymru wedi’i dderbyn oni bai am Brexit yn llawn.

“Ni all Llywodraeth Cymru dalu’r £1.1bn sydd ar goll ond rydym yn benderfynol o gefnogi pobol ifanc gyda’r cyllid sydd gennym,” meddai.

“Mae ein cefnogaeth yn fuddsoddiad ar gyfer llwyddiant economi fodern yng Nghymru yn y dyfodol, wedi’i bweru gan weithwyr medrus a busnesau uchelgeisiol.

“Byddwn yn parhau i bwyso ar lywodraeth y Deyrnas Unedig i gefnogi gweledigaeth Tîm Cymru lle mae talent yn cael ei gefnogi a’r £1bn a addawyd i Gymru yn cael ei adfer.”

‘Her’

Bydd y cymorth yn cael ei ddarparu mewn dwy ffordd.

Yn gyntaf, drwy Grant Dechrau Busnes Newydd i Bobol Ifanc o hyd at £2,000 fesul busnes. Bydd hyn yn cefnogi 1,200 o bobol ifanc sy’n ddi-waith, neu wedi gadael addysg neu hyfforddiant i ddod yn hunangyflogedig.

Yn ail, bydd cymorth cyn ac ar ôl cychwyn busnes am flwyddyn, gan gynnwys cyngor busnes un-i-un, mentora entrepreneuriaid, cynllunio busnes a rheolaeth ariannol.

Mae’r £5m yn adeiladu ar lwyddiant Syniadau Mawr Cymru, sy’n darparu dysgu drwy weithdai dan arweiniad entrepreneuriaid.

Yn ddiweddar, lansiodd Poppi Kingsepp, entrepreneur o Gastell-nedd Port Talbot, ei busnes arlwyo gyda chymorth Syniadau Mawr Cymru a Grant Rhwystrau i Ddechrau Busnes Cymru.

“Roedd lansio busnes yn y sector lletygarwch ar ôl y pandemig yn her, yn enwedig i rywun fel fi nad oedd yn gwybod dim am fusnes,” meddai.

“Ond roedd gan Syniadau Mawr Cymru gymaint o gyngor gwerthfawr i’w gynnig i mi fel entrepreneur ifanc, a rhoddodd i mi’r offer yr oedd eu hangen arnaf i lywio’r diwydiant hwn.

“Ni allwn fod wedi gwneud hynny heb gefnogaeth fy nghynghorydd busnes, a ddaeth i fyny i bob un o’n cyfarfodydd cynnydd wythnosol gyda chyngor defnyddiol, adnoddau defnyddiol a llawer o asedau i helpu i dyfu fy musnes.”