Mae cwmnïau sy’n rhedeg cyrsiau diogelwch ffyrdd “yn cael job recriwtio hyfforddwyr cyfrwng Cymraeg.

Yn ôl Iestyn Davies, Pencampwr y Gymraeg gyda sefydliad UKROEd sy’n gyfrifol am reoli cyrsiau goryrru, mae cwmnïau a’r heddlu’n awyddus i ddod o hyd i fwy o staff sy’n siarad Cymraeg.

Cwmni TTC, sydd wedi’i leoli yn Telford, sy’n rhedeg y cyrsiau yn Heddlu’r Gogledd, Heddlu’r De a Heddlu Gwent, tra bod Heddlu Dyfed-Powys yn rhedeg eu cyrsiau eu hunain.

Mae’r cwmni, Heddlu Dyfed-Powys ac UKROEd (UK Road Offender Education) yn cydweithio er mwyn trio denu mwy o staff Cymraeg a thrio annog mwy o bobol i ddilyn cyrsiau ailhyfforddi troseddwyr gyrru drwy gyfrwng y Gymraeg.

Iestyn Davies sy’n cadeirio cyfarfodydd grŵp iaith yr asiantaethau ar ran UKROEd.

“Rydyn ni i gyd yn cydweithio i drio cael mwy o bobol Cymraeg i fynd ar gyrsiau [cyfrwng Cymraeg],” meddai wrth golwg360.

“Mae TTC a Dyfed Powys, yn enwedig yn ddiweddar, wedi trio cael hyfforddwyr Cymraeg i ymuno â’r cwmni. Mae lot o’r cyrsiau’n cael eu rhedeg ar-lein rŵan, fedrwch chi weithio o’r cartref.

“Maen nhw’n cael job cael unrhyw berson i fynd am y swyddi.

“Dydy’r tâl ddim yn ddrwg, os ydych chi’n rhedeg cwrs sy’n cymryd dwy awr a hanner maen nhw’n talu £95. Mae hi’n swydd fysa’n ddelfrydol i rywun sydd wedi ymddeol, rhywun oedd yn gyn-athro neu gyn-heddwas.

“Mae yna hyfforddiant i’r bobol fysa eisiau mynd am swydd, ac mae o’n dâl reit dda. Dydy o ddim yn waith llawn amser wrth reswm, ond ella fysa fo’n ddeniadol iawn i rywun sydd wedi ymddeol ond sy’n edrych am rywbeth arall i gadw’n brysur.”

Mae Iestyn Davies wedi synnu cyn lleied o bobol o ardaloedd lle mae canran uchel o siaradwyr Cymraeg sy’n dilyn cyrsiau ailhyfforddi gyrru cyfrwng Cymraeg, hefyd.

‘Ymfalchïo yn ein hymrwymiad’

Mae TTC wedi derbyn Cynnig Cymraeg Comisiynydd y Gymraeg eleni am eu hymdrechion i hyrwyddo’u gwasanaethau Cymraeg, ac mae recriwtio staff i gynnal cyrsiau Cymraeg yn rhan o’u cynnig.

“Yn TTC, rydym yn ymfalchïo yn ein hymrwymiad i’r Gymraeg a’r gwasanaethau rydym yn eu cynnig yn Gymraeg,” meddai Jim Kirkwood, Prif Weithredwr Grŵp TTC.

“Mae nifer o heddluoedd wedi ymddiried ynom i gyflwyno cyrsiau’r Rhaglen Ailhyfforddi Troseddwyr Gyrru Genedlaethol i aelodau’r cyhoedd ac mae hyn yn cynnwys mewn rhai ardaloedd yng Nghymru lle rydym yn cydnabod y gofyniad statudol a ddaw yn sgil hyn. Mae darparu’r gwasanaethau hyn yn llwyddiannus yn bwysig iawn i ni.

“Er ei fod yn gwmni o Loegr sydd wedi’i leoli ychydig dros y ffin yn Swydd Amwythig, mae’n parhau i fod yn rhan annatod o werthoedd craidd TTC ac o’n darpariaeth i gleientiaid ein bod yn gwasanaethu’n briodol y cymunedau lle rydym yn gweithredu ac ein bod yn gallu cyfathrebu a chynnig cyrsiau yn y Gymraeg, a hynny trwy ein panel o hyfforddwyr sy’n siarad Cymraeg a’n systemau cyfrifiadurol, gan roi i’n cleientiaid y cyfle sy’n iawn iddynt.”