Thema Diwrnod Amgylchedd y Byd, sy’n cael ei gynnal heddiw (dydd Sul, Mehefin 5) yw #OnlyOneEarth a’r alwad i bobol ledled y byd i weithredu ac i fyfyrio ar y camau brys mae’n rhaid i ni i gyd eu cymryd i adael planed lannach ac iachach ar gyfer y cenedlaethau i ddod.

Gyda’r amgylchedd dan fygythiad cynyddol yn sgil newid yn yr hinsawdd, mae Clare Pillman, Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru, yn tanlinellu’r angen brys i wneud mwy i adfer cydbwysedd natur a chynnal ein planed ac i fynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur.

“Does dim dwywaith, mae argyfyngau’r hinsawdd a natur yn effeithio arnom ni nawr, y funud hon,” meddai.

“Maent yn creu heriau dwys a newydd i ddynoliaeth ac yn peri problemau ledled y byd.

“Mae llawer yn y fantol o ran sut rydym yn mynd ati i ddelio â’r effeithiau at y dyfodol.

“Dyna pam, ar Ddiwrnod Amgylchedd y Byd, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn ychwanegu ei lais at alwad #OnlyOneEarth – galwad am weithredu ar y cyd, gweithredu trawsnewidiol, i ddiogelu ac adfer ein planed.

“Wrth geisio cyflawni hyn, bydd natur ei hun yn gymorth i ni.”

Camau pendant

“Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cymryd camau pendant i gynyddu ein hymdrechion i fynd i’r afael â’r argyfyngau drwy geisio gwneud mwy o le i fyd natur, drwy annog adfer bioamrywiaeth ar dir ac yn y môr, a chan sicrhau manteision iechyd a lles ar gyfer cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol,” meddai wedyn.

“Drwy’r Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd, mae gennym dargedau uchelgeisiol ar gyfer adfer dalfeydd carbon mwyaf effeithiol byd natur.

“Mae’r prosiectau a gefnogwyd dros 30 mlynedd o raglen LIFE yr Undeb Ewropeaidd wedi bod yn meithrin ecosystemau Cymru i’w helpu i wrthsefyll newid yn yr hinsawdd.

“Rydym hefyd yn gweithio gyda phartneriaid i feithrin ac ehangu canopi gwyrdd Cymru drwy gefnogi prosiectau creu coetiroedd ledled y wlad.

“Yn nes adref, rydym yn gwybod y gall dewisiadau ffordd o fyw – yr hyn a wnawn yn ddyddiol, yn unigol – wneud gwahaniaeth hefyd.

“Ond symud o weithredoedd unigol i weithredu ar y cyd – dyna sut cawn ni’r effaith fwyaf.

“Mae gennym gyfle, a gwyddom y gall newid gwirioneddol ddigwydd pan fydd llywodraethau, grwpiau ac unigolion yn gweithio gyda’i gilydd i ddiogelu ein hinsawdd a’n byd naturiol.

“Yn COP26, gwelsom Benaethiaid Gwladwriaethau o bob cwr o’r byd yn gwneud ymrwymiadau sylweddol i fynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur gyda’i gilydd, gan gydnabod bod gwneud hynny’n hanfodol i’n hiechyd, ein lles ac ar gyfer economi gynaliadwy a ffyniannus.

“Dros y ddegawd dyngedfennol hon, rhaid i ni droi’r ymrwymiadau hyn yn weithredu cadarn er mwyn sicrhau ein bod yn symud tuag at blaned fwy cyfiawn a chynaliadwy lle gall pawb a phopeth ffynnu.”

Astudiaethau achos

Grangetown Werddach

Mae prosiect Grangetown Werddach yn brosiect partneriaeth a gafodd ei ddylunio i drawsnewid ansawdd yr amgylchedd, strydlun a gwella seilwaith beicio a cherddwyr ar draws cymdogaeth yng nghanol dinas Caerdydd.

Cynllun Rheoli Cynefinoedd Fferm Wynt Pen y Cymoedd

Mae prosiect Cynllun Rheoli Cynefinoedd Fferm Wynt Pen y Cymoedd yn ne Cymru yn brosiect 25 mlynedd i adfer 1,500 hectar o gynefinoedd coedwigedig fel rhan o’r caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiad fferm wynt Pen Y Cymoedd.