Mae’r Athro Mike Pearson wedi cael ei ddisgrifio fel “hyfryd o ddyn” gan Catrin M S Davies, a weithiodd gyda fe ar gynhyrchiadau theatr.

Mae Mike Pearson, sydd wedi marw, yn un o’r ffigyrau mwyaf dylanwadol ar y theatr yng Nghymru dros y 50 mlynedd diwethaf.

Dechreuodd ymwneud â’r theatr yng Nghymru yn yr 1970au.

Aeth yn ei flaen i sefydlu a bod yn rhan o sawl cwmni arloesol ar y pryd, gan gynnwys RAT Theatre, Cardiff Laboratory Theatr a chwmni Brith Gof.

Mae Brith Gof yn un o’r cwmnïau amgen enwocaf yn y theatr Gymraeg.

Roedd Mike Pearson yn un o bedwar ddechreuodd y cwmni, fu’n perfformio o 1981 tan 1997, gydag Eddie Ladd yn rhan o’r cynyrchiadau am ddeng mlynedd.

Erbyn ddiwedd ei yrfa, roedd yn Athro Emeritws yn Adran Theatr, Ffilm ac Astudiaethau teledu Prifysgol Aberystwyth.

‘Hyfryd o ddyn’

“Rydw i’n cofio’n glir y tro cyntaf i mi gyfarfod â Mike Pearson,” meddai Catrin M S Davies wrth golwg360.

“Ron i’n fyfyrwraig Drama ifanc yn Aberystwyth a mi ddaeth Cwmni Theatr Brith Gof i gydweithio gyda’r Adran.

“Roedd Mike Pearson a Lis Hughes-Jones wedi symud eu cwmni i Geredigion ac yn mynd i gynnwys ni, y bobol ifanc ddi-brofiad yma, yn eu cynhyrchiad ar gyfer Eisteddfod Abertawe.

“Daeth y sioe Gwaed neu Fara i fod ac yr oedd yn uchelgeisiol, yn danbaid a’r negeseuon gwleidyddol yn gwbwl greiddiol iddi.

“Dyma ddeall pŵer y celfyddydau, a’n newidiwyd ni fel myfyrwyr a pherfformwyr.

“Rwy’n cofio ymarferion gyda Mike a Lis yn gwbwl glir ddegawdau yn ddiweddarach gan eu bod nhw wedi ein harwain i feddwl, i holi ac i greu.

“Mike a Lis gyflwynodd theatr wleidyddol, arbrofol a heriol i Gymru ond yn bennaf oll theatr berthnasol.

Gwaed neu Fara, Guernika, Rhydcymerau i gyd yn gynyrchiadau sy’n byw yng nghof y gynulleidfa heddi.

“Wedi dyddiau Coleg, mi fues i’n cydweithio yng Nghanolfan y Sgubor gyda Mike ac mi oedd yn un o’r bobol mwya creadigol a deallus a bu Aberystwyth yn ffodus o’i bresenoldeb a’i gyfraniad.”

Yr 80au a Brith Gof

“Roedd yr 80au yn oes aur i greadigrwydd yn Aber oherwydd llond llaw o unigolion ac yn eu plith, yn sicr, roedd Mike a Lis,” meddai Catrin M S Davies wedyn.

“Trwy gysylltiadau Brith Gof mi ddaeth cwmniau rhyngwladol i Aberystwyth a mi aeth Aberystwyth i Ewrop drwy eu gwaith.

“Daeth cyfnod newydd i Brith Gof ganol yr 80au pan ymunodd Cliff Mc Lucas â’r cwmni a dyna esgor ar y sioeau mawr rhyngwladol gyda Gododdin yn teithio i’r Eidal, Ffrisland, yr Alban a’r Almaen ac yn denu canmoliaeth ac edmygedd ym mhob man.

“Cafodd Mike ei gydnabod fel un o grewyr theatr pwysicaf ail hanner yr ugeinfed ganrif – ar lwyfan Ewropeaidd.

“Yr oedd hefyd yn gyfrwys tu hwnt.  Daeth yr arian ar gyfer taith Gododdin i Ewrop o goffrau’r Cyngor Prydeinig er mwyn hyrwyddo gwaith Prydeinig ar y cyfandir.

“I’r rheiny na welodd Gododdin – yr oedd yn bopeth ond Prydeinig. A mi oedd Mike yn hoff iawn o eirioni hynny.

“Daeth Mike yn ddarlithydd yn yr Adran Theatr Ffilm Theledu yn y 90au gan alluogi cannoedd o fyfyrwyr i brofi ei ddeallusrwydd a’i hynodrwydd, sef ei allu i briodi syniadau academaidd astrus gyda gwaith creadigol.

“Roedd ei sioeau yn mynnu eich bod chi’n meddwl ond hefyd yn teimlo, ac un peth yw creu gwaith felly – dawn anhygoel yw ysbrydoli a galluogi eraill i wneud.”

‘Ychydig bach yn dawel, bron yn swil’

“Yr oedd Mike yn hyfryd o ddyn,” meddai wedyn am ei bersonoliaeth.

“Ychydig bach yn dawel, bron yn swil, yn crymu oherwydd ei fod mor dal ond mewn eiliad fach dawel yn dweud rhywbeth hollol ysgubol.

“Neu mewn eiliad fach dawel arall, mi fyddai’n adrodd jôc cwbwl stiwpid a oedd yn gwneud i bawb chwerthin.

“Yr oedd Mike yn dod o Swydd Lincoln yn wreiddiol ond yr oedd Cymru a’i hanes wedi cydio ynddo o’r cychwyn a bu’n was ffyddlon, gweithgar a phwysig tu hwnt iddi.

“Rwy’n meddwl ei fod yn deall ein bod ni’n gwerthfawrogi ei gyfraniad anhygoel ond gobeithio ei fod yn gwybod pa mor hoff yr oeddem ni ohono fe hefyd.”