Mae teyrngedau wedi’u rhoi i’r canwr ac actor Dyfrig ‘Topper’ Evans, yn dilyn ei farwolaeth ar ôl salwch byr.

Roedd yn 43 oed.

Yn ôl y DJ Gareth Potter, oedd yn ffrind agos, roedd e “mor dalentog, mor hwylus” ac mae’n dweud y bydd e’n ei “gofio am byth”.

“Dw i’n cofio’r grŵp oedd gyda’r bois, Paladr, a dw i’n cofio’u gweld nhw yn y Glôb ym Mangor,” meddai wrth golwg360.

“Roedden nhw’n rhan o deulu Ankst, ac roeddwn i gyda nhw’n reit aml.

“Wnaeth Dyfrig chwarae Mephestopheles Faust unwaith, a gaethon ni gryn dipyn o hwyl yn gwneud Theatr Bara Caws.

“Wnaethon ni drawsblannu stori Dr Faustus i fewn i’r byd rêfs. Fe oedd y diafol a fi oedd y boi oedd eisiau gwerthu’i enaid er mwyn cael byw am byth.

“Dyna pryd ddaethon ni’n ffrindiau agos, dw i’n meddwl, ac yn rhannu cyfrinachau.”

‘Roedd o’n rhoi coflaid pan oeddwn i angen’

Fel ffrind, meddai Gareth Potter, “roedd o’n foi gonest iawn”.

“Roedd o’n rhoi coflaid pan oeddwn i angen ac roeddwn i yno i ddal ei law e, ac yn ddiweddar yn ystod y cyfnod clo, wnaethon ni weithio efo’n gilydd mewn caffi,” meddai.

“Dw i am gofio’r amseroedd gwych gafon ni, yn cael rêl laff.

“Buon ni lawr yn Ffrainc yn teithio gyda Theatr Bara Caws, fe a’i frawd Iwan wrth gwrs, ac wedyn wnaeth e chwarae mewn band gyda fi. Roeddwn i’n gitarydd a daeth Dyfrig i fewn i chwarae caneuon Traddodiad Ofnus.

“Roeddwn i wedi gobeithio y byddai Dyfrig ar gael i wneud taith i chwarae’r caneuon ond nawr, rydyn ni wedi’u hailryddhau nhw’n gynt.

“Mae’n drist bo ni ddim wedi cael cyfle i fynd ar daith eto efo’n gilydd.

“Mae e’n lot rhy ifanc, lot iau na fi, ond yn ffrind da iawn. Mor dalentog, mor hwylus ac mae fy meddyliau gyda’i deulu.

“Wna i ei gofio fe am byth.”

‘Talent Dyfrig yn rhychwantu cymeriadau annwyl’

Dywedodd Llinos Griffin-Williams, Prif Swyddog Cynnwys S4C: “Roedd talent Dyfrig yn rhychwantu cymeriadau annwyl ar gyfer ein cynnwys plant a chymeriadau mwy brith ar gyfer cyfresi fel Talcen Caled,” meddai Llinos Griffin-Williams, Prif Swyddog Cynnwys S4C.

“Hynny heb sôn am ei allu a’i gyfraniad di-gwestiwn fel cerddor.

“Bydd colled ar ei ôl ac mae ein cydymdeimlad gyda’i deulu a’i ffrindiau.”

Mae llu o deyrngedau wedi’u rhoi i Dyfrig Evans ar y cyfryngau cymdeithasol hefyd.

Ar Facebook, dywedodd Rhian Cadwladr, “Nesi actio gynta efo Dyfrig pan oedd o’n fachgen ysgol a’i dalent naturiol yn amlwg”.

“Fi oedd ei fam o yn y gyfres Rownd a Rownd, anodd credu na wela’i ei wên ddireidus a’i glywed o’n deud “haia Mam arall” fyth eto.

“Cwsg yn dawel Dyfs bach. Pob cydymdeimlad efo’i deulu a’i ffrindia xxx”.

“Diolch am y gerddoriaeth!”

Mae’r cyflwynydd radio Rhys Mwyn wedi’i ddisgrifio fel “un o gerddorion a chyfansoddwyr mwyaf dawnus y Byd Pop Cymraeg”.

“‘Dyfrig Topper’ fydd Dyfrig i ni am byth – dyna sut oedd rhywun yn ei adnabod a meddwl amdano,” meddai.

“Bydd caneuon fel ‘Newid Er Mwyn Newid’ a ‘Cwpan Mewn Dwr’ yna am byth, yn glasuron, yn gwneud i rhywun wenu a rhoi gwefr wrth wrando.

“Diolch am y gerddoriaeth!”

Dyfrig ‘Topper’ Evans wedi marw’n 43 oed: “Mae teimlad o chwithdod mawr yn Nyffryn Nantlle”

Roedd yn fwyaf adnabyddus fel canwr, ond fel actor y daeth y brodor o Benygroes i amlygrwydd gyntaf