Mae papur newydd y Daily Mail wedi honni bod plant y mae eu rhieni am iddyn nhw gael addysg uniaith Saesneg yn cael eu trin “fel dinasyddion eilradd” yng Nghymru – oherwydd bod yn rhaid i’r rhieni eu gyrru i ysgol Saesneg gerllaw.

Dywed y papur newydd fod disgyblion yn “wynebu gorfod cael eu cludo o’u pentrefi gan eu mamau a’u tadau” oherwydd bod ysgol ym Mhowys yn darparu addysg ddwyieithog.

Daw hyn ar ôl i Gyngor Powys ddweud na fydd rhieni sy’n ceisio addysgu eu plant yn Saesneg yn unig yn cael cludiant cyhoeddus i’w plant pan oedd ysgol Gymraeg yn nes i’w tair nag ysgol Saesneg.

Wrth siarad â’r Daily Mail, honnodd un rhiant dienw fod y polisi yn “rhagfarnllyd” a bod y cyngor yn “defnyddio plant i’w gorfodi i ddysgu Cymraeg”.

Yn ôl y Daily Mail, dyhead Llywodraeth Cymru i gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 sydd ar fai.

Cyfeiria’r papur newydd at Ysgol Dyffryn Trannon yn “dileu addysg drwy gyfrwng y Saesneg”.

“O fis Medi ymlaen bydd yn rhaid i rieni sy’n byw yno ac sydd eisiau i’w plant ddysgu yn Saesneg fynd â nhw i Ysgol Gynradd Llanidloes bum milltir i ffwrdd ar eu cost eu hunain,” meddai’r erthygl.

Bu’r cyngor – oedd yn cael ei redeg gan y Ceidwadwyr a’r Annibynwyr – ar y pryd yn trafod newid Trefeglwys i ysgol Gymraeg ym mis Medi’r llynedd a daeth i’r casgliad fod rhieni sy’n byw yn Nhrefeglwys yn cael dewis tair ysgol gyfagos os ydyn nhw am i’w plant gael eu haddysgu yn Saesneg yn unig.

Fodd bynnag, dywedodd Cyngor Powys fod addysg cyfrwng Cymraeg yn ymarferol yn un ddwyieithog, gyda phlant yn dod yn rhugl yn y ddwy iaith.

Digon o opsiynau i rieni

“Dechreuwyd y broses o newid categori iaith yr ysgol oherwydd y nifer fach o ddisgyblion sy’n dewis derbyn eu haddysg drwy gyfrwng y Saesneg yn yr ysgol, sydd wedi lleihau’n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf,” meddai llefarydd ar ran Cyngor Powys wrth ymateb.

“Cynhaliwyd ymgynghoriad fel rhan o’r broses, ac ar ôl ystyried y materion a godwyd, penderfynodd y Cyngor fwrw ymlaen â’r newid.

“Er mwyn lleihau’r effaith ar unrhyw ddisgyblion sydd eisoes yn mynychu’r ysgol, mae’r newid i gategori iaith yr ysgol yn cael ei gyflwyno’n raddol wrth i’r disgyblion presennol symud drwy’r ysgol.

“Bydd unrhyw ddisgyblion newydd sy’n ymuno â’r ysgol yn y dyfodol yn gallu cael mynediad at ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg pan fyddant yn dechrau yn yr ysgol, sy’n golygu y byddant yn cael eu trochi’n llawn yn yr iaith Gymraeg, ac y byddai ganddynt y sgiliau Cymraeg sydd eu hangen i gael mynediad at ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg drwy gydol eu hamser yn yr ysgol.

“Er ein bod yn cydnabod y gall rhai disgyblion ddewis cael mynediad at ddarpariaeth cyfrwng Saesneg mewn mannau eraill yn hytrach na chael mynediad at ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn Nhrefeglwys, gobaith y Cyngor yw y bydd pob disgybl sy’n byw yn Nhrefeglwys yn cael mynediad at ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn Ysgol Dyffryn Trannon.

“Fodd bynnag, mae gan rieni hawl i wneud cais am le mewn unrhyw ysgol y maent yn ei dewis, a gallant wneud cais am le mewn ysgol cyfrwng Saesneg amgen os nad ydynt am i’w plant fynychu Ysgol Dyffryn Trannon.

“Mae Ysgol Dyffryn Trannon yn un o bedair ysgol gynradd yn ardal Llanidloes.

“Er y bydd Ysgol Dyffryn Trannon yn dod yn ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg, mae’r tair ysgol gynradd arall cyfagos.

“Mae pob un ohonynt wedi’u lleoli o fewn ychydig filltiroedd i Ysgol Dyffryn Trannon, ac yn rhai cyfrwng Saesneg.

“Mae’n gywir, o dan bolisi cludiant presennol y Cyngor o’r cartref i’r ysgol, na fyddai disgyblion sy’n byw yn Nhrefeglwys yn cael cludiant i ddarpariaeth cyfrwng Saesneg pe baent yn byw’n agosach at ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg.”