‘Dyw hi ddim yn gyfan gwbl gywir i ddweud nad yw cyfiawnder wedi ei ddatganoli yng Nghymru. Mae’n fwy cywir i ddweud fod pensaernïaeth y setliad datganoli yn golygu ei bod hi’n amhosibl neu’n anodd i Lywodraeth Cymru wneud pethau ym maes ‘cyfiawnder’.

Y broblem gyntaf yw nad oes y fath beth â chyfraith Cymru yn bodoli, dim ond cyfraith Cymru a Lloegr, neu EnglandandWales (Gweler yma am ddarlith gennyf o Eisteddfod Caerdydd ar y pwnc hwn: Bydded cyfiawnder! Ffarwél i EnglandandWales – The Honourable Society of Cymmrodorion). Nid yw Cymru yn diriogaeth gyfreithiol ar wahân i Loegr. Felly un gyfraith sydd oddi mewn i un diriogaeth, er bod yr un gyfraith hon yn wahanol iawn yn nwy ran yr un diriogaeth.

Mae’r wrtheb hon yn cael ei chynnal drwy bennu yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 bod cyfreithiau’r Senedd yn ‘estyn i’ (‘extend to’) EnglandandWales ond yn ‘gymwys mewn perthynas â (‘apply in relation to’) Chymru yn unig. Mae angylion yn dawnsio yn cynnal twmpath dawns bywiog ar bigau’r pinnau hyn.

Bwriad hyn yw cynnal ‘awdurdodaeth gyfreithiol unigol Lloegr a Chymru’, llinyn aur drwy hanes datganoli Cymru o’r cychwyn, ac un o’r prif resymau pam bod setliadau datganoli Cymru wedi bod mor gymhleth ac hefyd heb eu setlo.

(Wrth fynd heibio, gellir nodi bod Adran 2 Deddf 2006 yn ‘cydnabod’ cyfraith Gymreig drwy ddatgan “The law that applies in Wales includes a body of Welsh law made by the Senedd and the Welsh Ministers” gan fynd ymlaen: “The purpose of this section is…to recognise the ability of the Senedd and the Welsh Ministers to make law forming part of the law of England and Wales“. Dyma ddarpariaeth nawddoglyd a dibwrpas).

Yr ail broblem yw hyn: o ganlyniad i’r dyhead i gadw’r awdurdodaeth unigol ac hefyd (gellir amau) rym gweithredol yn Whitehall, mae llawer iawn o rym wedi ei gadw’n ôl gan Senedd Llundain sydd heb eu cadw’n ôl yn achos yr Alban na Gogledd Iwerddon. Mae hynny’n cynnwys materion fel llysoedd, cymorth cyfreithiol, yr heddlu a charchardai.  Ar ben hynny mae cyfyngiadau cymhleth ar allu Senedd Cymru i ddeddfu ym meysydd cyfraith droseddol a chyfraith sifil.

Ond dydi hyn ddim yn golygu nad yw Senedd Cymru na’r Llywodraeth yng Nghaerdydd yn medru gweithredu ym maes cyfiawnder, dim ond bod gwneud hynny’n anoddach nag sydd angen iddo fod. Yn ymarferol, fel y dangosodd adroddiad y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru (dan arweiniad yr Arglwydd John Thomas o Gwmgïedd, cyn Arglwydd Brif Ustus Cymru a Lloegr), mae’r Llywodraeth yng Nghaerdydd wedi gwario adnoddau sylweddol ar gyfiawnder, gyda bron 40% o’r arian i gynnal y system gyfiawnder yng Nghymru yn dod o’r gyllideb Gymreig. Bu rhaid iddi wneud hynny, fodd bynnag, gydag un llaw wedi ei chlymu tu ôl i’w chefn.

Dydi ‘cyfiawnder’, wrth gwrs, ddim yn gorffwys mewn rhyw wagle delfrydol y tu hwnt i fywyd bod dydd (er cymaint y mae ymddygiad ambell i gyfreithiwr yn awgrymu fel arall). Mae ynghlwm wrth faterion megis addysg, iechyd, iechyd meddwl, tai, polisi economaidd a chymdeithasol – yn fyr sut mae pobol yn byw.

Mae’r rhai sydd o blaid cynnal yr awdurdodaeth unigol yn daer iawn dros hynny. Mae’n ymddangos weithiau eu bod yn credu ynddo fel gwirionedd absoliwt, a’u sêl bron fel cyffes ffydd. Does dim o’i le, wrth gwrs, ar gyffes ffydd, cyhyd ag y bo’n cael ei gydnabod felly, a chyhyd nad yw’n rhwystro trafodaeth resymegol. Mae Comisiwn Thomas a Llywodraeth Cymru wedi bod yn iawn i ganolbwyntio ar fanteision ymarferol datganoli grym mwy cyflawn ym maes cyfiawnder. Rhaid i ni beidio â diystyried, fodd bynnag, fod y rhai sy’n gwrthwynebu hynny yn cael eu gyrru yn gymaint gan ideoleg â chan bryderon ymarferol.

Llywodraeth Cymru’n amlinellu egwyddorion ar gyfer system gyfiawnder ddiwygiedig, ddatganoledig

“Yr unig ffordd gynaliadwy o wella’r system gyfiawnder yw lleihau nifer y bobl sy’n dod i gysylltiad â hi,” meddai’r Cwnsler Cyffredinol Mick Antoniw