Mae Banc Barclays yn dweud nad oes ganddyn nhw gynlluniau i gau eu cangen yn Aberystwyth.

Ddiwedd yr wythnos ddiwethaf, roedd golwg360 yn adrodd bod gan Lyn Ebenezer bryderon am ddyfodol y gangen, ar ôl derbyn llythyr gan y banc yn sôn am gau cangen Llanbedr Pont Steffan.

Yn ôl y darlledwr ac awdur, sy’n byw ym Mhontrhydfendigaid ac a oedd wedi troi at Facebook i fynegi pryder, mae’r penderfyniad i gau’r gangen yn Llanbed yn un “gwarthus”.

“Yn Llanbed mae’r criw staff mwyaf croesawgar a chynorthwyol yng Nghymru gyfan,” meddai.

“Mae cangen Tregaron wedi hen gau a nawr, mae Llanbed i ddilyn.”

Dywedodd fod y llythyr yn sôn mai Llandeilo neu Gaerfyrddin fydd y gangen agosaf wedi i Lanbed gau.

“Dim sôn am Aber,” meddai wedyn.

“Ydi hwnnw hefyd ar y rhestr cau?”

Yn ôl Wyn Maskell, ficer plwyf Felinfach, mae “staff cyfeillgar iawn yn y banc”, ac mae’r cyhoeddiad ei fod am gau yn newyddion “trist iawn”.

Yn ôl Lynda Thomas, un arall o’r trigolion lleol, mae’r cyhoeddiad yn un “diflas dros ben” ac yn “sefyllfa ddiflas i’r dre’ a’r cwsmeriaid a’r twll yn y wal yn cau”, gan ychwanegu mai “colled fawr oedd NatWest heb sôn am hwn eto”.

Yn ôl Delyth Davies, mae’n “hoelen arall yng nghoffin y dre”.

Ymateb Barclays

Wrth ymateb, mae Banc Barclays wedi cynnig dadansoddiad o’r pellter rhwng Llanbed ac Aberystwyth (tua 24.5 milltir) ac rhwng Llanbed a Chaerfyrddin (tua 23 milltir).

Y pellter rhwng Llanbed a Llandeilo yw 21.5 milltir.

Ond dydy hi ddim yn ymddangos bod y banc wedi ystyried y pellter o gartrefi cwsmeriaid unigol i’w banc agosaf.

“Does dim cynlluniau ar hyn o bryd i wneud unrhyw gyhoeddiad mewn perthynas â changen Aberystwyth,” meddai llefarydd ar ran Banc Barclays wrth golwg360.

“Mae ein dadansoddiad yn dangos bod Caerfyrddin ychydig yn agosach o ran milltiroedd ar y ffordd nag Aberystwyth, er yn amlwg mae gan gwsmeriaid rwydd hynt i ddefnyddio Aberystwyth os ydyn nhw’n ei chael hi’n fwy cyfleus.”

Ond o fesur y pellteroedd o Bontrhydfendigaid, lle mae Lyn Ebenezer yn byw, mae dadansoddiad golwg360 yn dangos bod Llandeilo tua 33 milltir i ffwrdd, Caerfyrddin tua 39 milltir, Llanbed tua 16 milltir i ffwrdd ac Aberystwyth tua 15 milltir i ffwrdd.

Llythyr yn codi pryderon am ddyfodol banc Barclays yn Aberystwyth

Yn ôl Lyn Ebenezer, mae’r banc wedi rhoi gwybod iddo mai Llandeilo neu Gaerfyrddin yw’r gangen agosaf bellach ar ôl cau cangen Llanbed