Mae’r economegydd Dr John Ball yn dweud nad yw’r ffigurau chwyddiant a gafodd eu cyhoeddi’r wythnos hon yn “endemig”, ac y dylai’r sefyllfa “gywiro’i hun”.

Daw sylwadau’r cyn-ddarlithydd wrth i ffigyrau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol ddatgelu ganol yr wythnos fod chwyddiant wedi cyrraedd ei lefel uchaf – 9% – ers 40 mlynedd.

Mae tua thri chwarter y cynnydd yn deillio o’r cynnydd o 54% yn y cap ar brisiau ynni a ddechreuodd ym mis Ebrill, ac a oedd yn cyfateb i gynnydd o £700 y flwyddyn ym mil ynni cyfartalog aelwydydd.

Yn y cyfamser, mae costau byw wedi cynyddu yn sgil rhyfel Rwsia yn Wcráin, gyda phrisiau bwyd a thanwydd yn codi.

Mae’r Canghellor Rishi Sunak yn dweud na all y Llywodraeth “amddiffyn pobol yn llwyr” rhag prisiau ynni uwch – her y mae’n ei disgrifio fel un byd-eang.

‘Ymateb polisi pwyllog’

“Mae’r chwyddiant hwn o ganlyniad i lefelau uchel o alw,” meddai Dr John Ball wrth golwg360.

“Roedd y ffigurau’n dangos record o ran lefelau gwariant ar fanwerthu.

“Y peth pwysig yn fan hyn yw nad yw’n endemig ac y dylai gywiro’i hun.

“Roedd y chwyddiant hwn yn amlwg yn rhagweladwy, ac roedd gwariant ar fanwerthu yn amlwg yn mynd i gynyddu’n gyflym unwaith fyddai Covid yn lleddfu.

Yn ôl Dr John Ball, mae angen “ymateb polisi pwyllog” i’r ffigurau.

“Yn yr achos hwn, mae’r chwyddiant wedi cael ei achosi gan ychydig iawn o ffactorau y mae modd mynd i’r afael â nhw.”

Beth yw’r ateb felly?

“O ran ynni, [mae angen] adfer y cap ariannol ar nwy a thrydan, ac ystyried cyflwyno treth ffawdelw neu dreth ychwanegol,” meddai.

“O ran tanwydd, [mae angen] mynnu gostyngiad yn y pris manwerthu a/neu dreth ffawdelw – mae tystiolaeth anecdotaidd nad yw’r 5c o ostyngiad yn y gyllideb wedi cael ei drosglwyddo.

“O ran cyfraddau llog, yn ddiau mae Banc Lloegr wedi gorymateb.

“Mae defnyddio cyfraddau llog yn offeryn llawdrwm, di-fin iawn ac fe allai’n hawdd iawn arwain at ddirwasgiad.

“Eisoes, ac yn gyflym iawn, mae banciau wedi cynyddu cost benthyciadau a morgeisi wrth ymateb, pan fo modd dadlau nad oes angen.

“I’r gwrthwyneb, mae cynyddu cyfraddau llog yn un ffordd sicr o gynyddu neu gynnal chwyddiant!”

Economegydd o Fangor yn rhagweld y bydd chwyddiant yn parhau i godi

Huw Bebb

“Dw i’n disgwyl gweld chwyddiant yn cario ymlaen i gynyddu”, meddai Dr Edward Jones