Mae Cyngor Sir Ceredigion a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi cadarnhau y bydd Cartref Nyrsio Abermad yn Llanfarian yng Ngheredigion yn cau.

Daw’r cyhoeddiad yn dilyn cadarnhad gan gyfarwyddwyr y cwmni sy’n rhedeg y cartref.

Yn ôl y cartref nyrsio, mae problemau recriwtio a staffio wedi cyfrannu’n sylweddol at y “penderfyniad anodd” i gau, sydd “er diogelwch yr holl breswylwyr sy’n byw yn y cartref”.

“Fel darparwr gofal cyfrifol, rydym yn cynnal adolygiadau rheolaidd i gynaliadwyedd ein holl gartrefi gofal i sicrhau y gallwn barhau i ddarparu gofal o safon uchel gyda’r nifer briodol o staff hyfforddedig,” meddai llefarydd ar ran y cartref.

“Mae Abermad wedi wynebu her recriwtio hirdymor a oedd yn golygu na allem staffio’r cartref i’r lefelau priodol.

“Er gwaethaf ein hymdrechion i ddenu staff gofal a nyrsio cymwys i’r cartref, nid ydym wedi llwyddo i ddatrys yr her recriwtio.

“O ganlyniad, ac er diogelwch yr holl breswylwyr sy’n byw yn y cartref, rydym wedi gwneud y penderfyniad anodd i gau Cartref Nyrsio Abermad.”

Y cam nesaf

Yn dilyn y penderfyniad, bydd Cyngor Sir Ceredigion a’r bwrdd iechyd yn cydweithio â rheolwyr y cartref i gefnogi pawb sydd wedi’u heffeithio, meddai’r llefarydd.

Ond dydyn nhw ddim wedi pennu dyddiad ar gyfer cau’r cartref eto.

Mae’r gwaith o sicrhau gofal a lleoliadau amgen wedi dechrau eisoes, meddai’r llefarydd.