Mae digwyddiad sydd wedi arwain at feirniadaeth i gymdeithas English Cathedrals am hawlio Eglwys Gadeiriol Tyddewi, yn cael ei chynnal heno (nos Sadwrn, Mai 14).

Bydd ‘Cathedrals at Night’ yn cael ei chynnal o 6.30yh yn Sir Benfro, ond fe gafodd ei restru o dan ddigwyddiadau’r gymdeithas yn Lloegr – er mawr syndod a siom i rai.

Mae’r eglwys gadeiriol yn dweud bod y digwyddiad yn un i’r teulu cyfan, gan gynnwys gweithgareddau a chyfle i ddysgu mwy am Feiblau a llyfrau crefyddol cynnar, hanes yr eglwys gadeiriol a stori Gerallt Gymro, cerddoriaeth, llusernau a gwasanaeth i gloi’r diwrnod.

“Un noson. Un profiad unigryw” meddai’r neges uniaith Saesneg ar eu tudalen Twitter, cyn i ddegau o bobol dynnu sylw at y ffaith mai yng Nghymru mae’r eglwys gadeiriol dan sylw.

Ymateb chwyrn

“Na. Na. Na” meddai Dylan Wyn, cyn ychwanegu bod Tyddewi yng Nghymru, a’i fod yn “orffwysfan Dewi Sant, ein nawddsant”.

Mae Vaughan Williams yn eu cyhuddo nhw o “ddiffyg parch llwyr”, ac mae Cynan Llwyd yn dweud ei fod yn yr eglwys gadeiriol yn ddiweddar “ac yn eithaf siŵr nad oeddwn i yn Lloegr”.

Mae Donna Warburton yn awgrymu y dylen nhw “fynd yn ôl i’r ysgol” i astudio Daearyddiaeth, tra bod Heledd Gwyndaf yn dweud bod “coloneiddio Cymru’n fyw ac yn iach”.

“Gwnewch y pethau bychain” yw siars Geraint Cynan, “fel gwirio eich atlas”.

Mae Hywel Wyn Jones yn mynd gam ymhellach, gan ddechrau ffrwd: “Mae yna eglwysi cadeiriol nodedig ym Milan, Barcelona, Paris, Cape Town… Efallai yr hoffech chi eu hychwanegu nhw at eich rhestr ffantasi “Seisnig”?”

Ymateb tebyg ddaeth gan ‘Annibyniaeth Jones’, oedd wedi dechrau ffrwd “Eglwys gadeiriol Seisnig yw hon” cyn ychwanegu lluniau o’r Basilica, Sagrada Familia ac Eglwys Gadeiriol Köln.