Bydd Eglwys Gadeiriol Llandaf yng Nghaerdydd yn cynnig y cyfle i fechgyn a merched ganu’r un nifer o wasanaethau o fis Medi.

Dyma’r tro cyntaf i fechgyn a merched sy’n dymuno bod yn aelodau’r côr gael cyfle cyfartal.

Bydd y ddau gôr, sydd ill dau ag 18 aelod, yn rhannu dyletswyddau’n gyfartal rhyngddyn nhw, gyda phob un yn canu dau wasanaeth hwyrnos corawl yr wythnos a dau wasanaeth bob yn ail ddydd Sul.

Caiff aelodau’r ddau gôr eu haddysgu yn Ysgol y Gadeirlan a byddan nhw’n derbyn ysgoloriaeth am eu hymroddiad.

Mae’r newid yn dilyn esiampl Cadeirlannau eraill yn y Deyrnas Unedig, gan gynnwys Caerloyw, Caerwrangon ac Ely.

‘Cerddoriaeth gorawl o’r safon uchaf yn ffynu’

“Ers amser maith bu Cadeirlan Llandaf yn fan lle mae cerddoriaeth gorawl o’r safon uchaf wedi ffynnu,” meddai Stephen Moore, Cyfarwyddwr Cerdd Eglwys Gadeiriol Llandaf, a fydd yn gyfrifol am y ddau gôr.

“Rwyf wrth fy modd y byddwn o fis Medi 2022 ymlaen yn medru cynnig yr un cyfleoedd i enethod a bechgyn sy’n dymuno bod yn aelodau o’r corau yma.

“Ers eu sefydlu gan Ysgol y Gadeirlan yn 1996, bu gan y merched rôl bwysig mewn addoliad yn y gadeirlan, gan ganu Hwyrnos bob wythnos a chyfrannu at wasanaethau eraill.

“Mae’r cam hanesyddol hwn, lle bydd y ddau gôr yn cael rhan gyfartal o ganu, yn nodi pennod newydd gyffrous ym mywyd cerddorol y gadeirlan.”

‘Cyfoethogi bywyd plant’

Yn ôl Clare Sherwood, Pennaeth Ysgol y Gadeirlan Llandaf, mae canu mewn côr cadeirlan “yn gyfle sy’n cyfoethogi bywyd plant”.

“Buom yn hynod falch i fedru cefnogi Côr Cadeirlan Llandaf am genedlaethau,” meddai.

“Mae creu cyfle cyfartal i ferched a bechgyn i ganu yn cyfoethogi ein haddoliad a gwn yr aiff y ddau gôr o nerth i nerth dan y trefniadau newydd.”

Yn ôl y Canon Mark Preece, Arweinydd y Gân yn Eglwys Gadeiriol Llandaf, mae canu corawl “yn rhan fywiog a llawen o gymuned y gadeirlan”.

“Daeth hyn yn amlwg iawn yn ystod pandemig Covid pan wnaeth cyfyngiadau ar ganu i ni gyd sylweddoli faint y dibynnwn ar gerddoriaeth i fynegi a chyfoethogi ein haddoliad,” meddai.

“Cawsom ein bendithio’n fawr yn Llandaf drwy gael traddodiad corawl rhagorol a hirsefydlog.

“Rydym wrth ein boddau y bydd aelodau ifanc talentog ac ymroddedig ein corau yn rhannu eu dyletswyddau Cadeirlan yn gyfartal yn y dyfodol agos.”

Mae croeso i ddarpar rieni gysylltu â’r Cyfarwyddwr Cerdd, Stephen Moore, i gael trafodaeth anffurfiol am botensial eu plentyn am ysgoloriaeth gorawl yng Nghadeirlan Llandaf.