Y Llyfrgell Genedlaethol
Mae’r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth wedi dweud y bydd yn gorfod ystyried ffyrdd newydd o godi arian ar ôl i Lywodraeth Cymru gyhoeddi y bydd yn cael gostyngiad o 4.7% yn ei chyllideb dros y flwyddyn nesaf.

Ddoe, fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Chyllideb Ddrafft ar gyfer 2016/17. Cafodd rhai gwasanaethau fel iechyd eu diogelu rhag toriadau ond mae gwasanaethau eraill wedi clywed bod toriadau pellach ar y ffordd.

Mae’r Llyfrgell wedi dweud bod y gostyngiad yn ei chyllid yn golygu y bydd yn rhaid iddyn nhw feddwl am ffyrdd eraill o godi arian.

“Er mwyn sicrhau na fydd y gostyngiad hwn yn cael effaith andwyol ar y casgliad cenedlaethol a mynediad, bydd angen i ni sicrhau cyllid ychwanegol o ffynonellau eraill gan gynnwys ymdrechion codi arian,” meddai Linda Tomos, prif weithredwr y Llyfrgell Genedlaethol.

Profi ‘toriadau sylweddol’

Dywedodd hefyd fod y Llyfrgell eisoes wedi gorfod ailstrwythuro’n ‘helaeth’ er mwyn dod o hyd i ffyrdd o leihau costau a chyfaddefodd ei bod hi’n gyfnod ‘heriol’ i’r sefydliad, ond yn un sy’n “cynnig cyfleoedd newydd.”

Mae bron i 90,000 o bobol yn ymweld â’r Llyfrgell Genedlaethol bob blwyddyn, ac yn ôl Linda Tomos, bydd ei hadnoddau digidol yn cyrraedd miliwn o ddefnyddwyr eleni.

Mae hefyd yn rhan o raglen ‘Estyn Allan’ sy’n ‘hybu adfywiad diwylliannol’ ardaloedd o dlodi – Cymunedau’n Gyntaf – yng Nghymru.

“Fel llawer o sefydliadau cyhoeddus, mae’r Llyfrgell wedi profi toriadau sylweddol i’w chyllideb yn y blynyddoedd diwethaf. Fodd bynnag, mae’r rheolwyr a staff wedi gweithio’n galed i sicrhau nad yw defnyddwyr wedi gweld unrhyw ddirywiad yn y gwasanaeth a’r ddarpariaeth,” meddai Linda Tomos.

“Er gwaethaf y toriadau hyn, byddwn yn gweithio’r un mor galed yn y dyfodol er mwyn cynnal gwasanaethau a darpariaeth y Llyfrgell.”