Rocio Cifuentes o Chile fydd Comisiynydd Plant nesaf Cymru.

Daeth cadarnhad o benodiad olynydd Sally Holland gan y prif weinidog Mark Drakeford.

Bydd hi’n dechrau yn y swydd ym mis Ebrill.

Ar hyn o bryd, Rocio Cifuentes yw prif weithredwr Tîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid Cymru, sef y prif sefydliad sy’n rhoi cymorth i gymunedau du, Asiaidd ac ethnig lleiafrifol yn y wlad.

Cafodd ei geni yn Chile, a daeth i Gymru’n flwydd oed gyda’i rhieni oedd yn ffoaduriaid gwleidyddol.

Aeth yn fyfyriwr i Brifysgol Caergrawnt, gan astudio Gwyddorau Cymdeithasol a Gwleidyddol ar gyfer ei gradd, cyn astudio am Radd Meistr mewn Ymchwil Gymdeithasol ym Mhrifysgol Abertawe.

Bu’n arwain y Tîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid Cymru ers y cychwyn cyntaf yn 2005, ar ôl bod yn gweithio i Gyngor Cyrff Gwirfoddol Ethnig Leiafrifol Cymru, Prosiect Pobol Ifanc Sengl Ddigartref Abertawe, Coleg Gwŷr a Phrifysgol Abertawe.

Derbyniodd y Prif Weinidog argymhelliad gan banel trawsbleidiol o Aelodau’r Senedd i’w phenodi.

Y Comisiynydd sy’n gyfrifol am hyrwyddo a diogelu hawliau plant, a sicrhau bod polisïau a deddfwriaeth Llywodraeth Cymru o fudd i blant a phobol ifanc y wlad.

Ymateb i’r penodiad

“Mae cael fy mhenodi’n Gomisiynydd Plant Cymru yn fraint ac anrhydedd o’r mwyaf,” meddai Rocio Cifuentes.

“…Mae rôl y Comisiynydd nawr cyn bwysiced ag y bu erioed, wrth i ni gyflawni ar gyfer y genhedlaeth o blant sydd wedi byw dan gysgod Covid-19.

“Rwy’n ymrwymo heddiw i sicrhau bod llais, safbwynt a dyfodol holl blant a phobol ifanc Cymru wrth galon popeth yr ydym yn ei wneud.”

Mae hi wedi cael ei chroesawu i’r swydd gan Mark Drakeford, prif weinidog Cymru.

“Mae rôl Comisiynydd Plant Cymru yn un hynod bwysig – mae’r pandemig wedi amharu’n ddifrifol ar fywydau plant,” meddai.

“Bydd y rôl yn helpu i lunio’r dyfodol i genhedlaeth o blant y mae’r coronafeirws wedi bod yn rhan enfawr o’u bywydau.

“Dyma pam ei bod mor bwysig parhau i gael llais cryf, fel bod rhywun yn eiriol dros blant ac yn cyfrannu at y broses o wneud penderfyniadau.”

Mae’r prif weinidog hefyd wedi talu teyrnged i Sally Holland “am ei holl waith fel Comisiynydd Plant”.

“Mae Sally wedi bod yn eiriolwr cryf dros blant a phobol ifanc yng Nghymru – o wreiddio hawliau’r plentyn mewn darnau allweddol o ddeddfwriaeth i roi cipolwg i ni ar brofiadau plant yn ystod y pandemig, drwy’r arolygon eang ‘Coronafeirws a fi’ sydd wedi cael cydnabyddiaeth ryngwladol,” meddai.

“Mae Sally Holland wedi gwneud cyfraniad aruthrol i genhedlaeth o blant yng Nghymru, a fydd yn parhau am gyfnod hir iawn.

“Nawr, yn fwy nag erioed o’r blaen, mae’n rhaid i’n penderfyniadau ni, fel Llywodraeth Cymru, adlewyrchu lleisiau plant a phobol ifanc.

“Rwy’n falch mai Rocio Cifuentes, ein Comisiynydd newydd, fydd yn gwneud y rôl bwysig hon.”

Mae ei phenodiad hefyd wedi cael ei groesawu gan Jane Hutt, yr Ysgrifennydd Cyfiawnder Cymdeithasol yn Llywodraeth Cymru, fel cadeirydd y panel dewis trawsbleidiol.

“Mae’n hanfodol bod gan ein Comisiynydd Plant nesaf wybodaeth, dealltwriaeth a phrofiad bywyd i sicrhau bod amrywiol safbwyntiau a gwerthoedd yn cael eu hystyried wrth lunio’r dyfodol mwy disglair y mae ein plant yn ei angen yn ddirfawr,” meddai.

“Rwy wrth fy modd bod Rocio Cifuentes wedi cael ei phenodi yn Gomisiynydd Plant Cymru.

“Mae ganddi arbenigedd a dealltwriaeth ddi-guro a fydd yn ddefnyddiol iawn yn y rôl ac rwy’n edrych ymlaen at gael cydweithio â hi dros y blynyddoedd nesaf.”