Mae posib y bydd bysiau trydan yn cludo teithwyr rhwng Aberystwyth, Llambed a Chaerfyrddin erbyn diwedd blwyddyn nesaf.

Ar hyn o bryd, mae’r ffordd 48-milltir rhwng y tair tref yn cael ei wasanaethu gan y gweithredwr bysiau First Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi £4.8 miliwn i Gyngor Sir Gâr adeiladu canolfan newydd yng Nghaerfyrddin a phrynu wyth bws trydan.

Bydd y Cyngor nawr yn mynd ymlaen i geisio sicrhau caniatâd cynllunio i’r ganolfan newydd, gyda phwyntiau gwefru i’r bysiau.

Y bwriad yw agor y ganolfan yn yr orsaf bresennol ar Ffordd Llysonnen, tua dwy filltir i’r gorllewin o ganol tref Caerfyrddin, ar ôl ystyried sawl lleoliad.

Byddai’r ganolfan newydd gyda chladin pren, a’n cynnwys ystafell gyfarfod, swyddfa, a thoiledau a chawod i’r staff.

Mae Llywodraeth Cymru’n dweud y bydd disgwyl i’r ganolfan newydd a’r bysiau trydan fod yn weithredol erbyn diwedd 2022.

Carbon

Fe ychwanegon nhw y bydd y bysiau newydd ar gael i bwy bynnag fydd â’r cytundeb erbyn blwyddyn nesaf, gan fod y cytundeb presennol â chwmni First Cymru yn rhedeg allan yn Hydref 2022.

Bydd y bysus dîsl sydd yn cael eu defnyddio ar y llwybr ar hyn o bryd yn cael eu hymneilltuo adeg hynny.

Mae Llywodraeth Cymru eisiau i Gymru fod yn wlad sero-net o ran allyriadau carbon erbyn 2050, os nad yn gynt, a bydd trafnidiaeth lân yn chwarae eu rhan yn hynny.

‘Dyddiau cynnar’

Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, Aelod Cabinet Cyngor Sir Gâr dros yr Amgylchedd: “Rydyn ni’n gweithio gyda Llywodraeth Cymru a Thrafnidiaeth Cymru ar brosiect posib i ddefnyddio bysiau trydan ar y gwasanaeth presennol o Gaerfyrddin i Aberystwyth.

“Mae’n ddyddiau cynnar ar y datblygiad, ac mae’n rhaid dilyn y broses o wneud cais cynllunio.”