Mae Cyfeillion Amgueddfa Ceredigion yn cynnal cyflwyniad heddiw, 15 Hydref, am ddau y p’nawn sy’n edrych ar goncwest Edward I yng Nghymru.

Yr hanesydd Dr Susan Davies fydd yn arwain yr anerchiad ar-lein, a bydd hi’n trafod yr unig gofnodion sydd ar ôl o ymgyrch Brenin Lloegr yng Nghymru rhwng 1282 a 1284.

Mae llawer o’r rhain yn gofnodion ariannol, sy’n dangos ychydig am ffordd o fyw’r milwyr wrth iddyn nhw goncro ac adeiladu cestyll ar draws y wlad.

Bydd Dr Susan Davies hefyd yn trafod rôl y Cymry o fewn yr ymgyrch, a sut mae’r wybodaeth yn cyflwyno darlun gwahanol o Edward I i’r un oedd yn bod o’r blaen.

Mae’r cyflwyniad am ddim ac yn agored i bawb, gyda’r Cyfeillion eisiau annog aelodau newydd a rhoi blas ar y digwyddiadau sydd ar gael drwy’r amgueddfa.

Prosiect

Mae Dr Susan Davies wedi gweithio ar y prosiect hwn ers degawdau, ac wedi dod ar draws cymaint o bethau hynod ddiddorol am y brenin canoloesol.

“Dyma yw’r unig gofnodion sydd ar ôl o ymgyrch Edward, ac mae cymaint o wybodaeth dydy pobol ddim yn ei wybod,” meddai wrth golwg360.

“Yn gyntaf, byddwn i’n edrych ar fwyd, a sut oedd arian yn symud o le i le.

“Byddwn i hefyd yn edrych ar faterion milwrol, achos dyma oedd y tro diwethaf i filwyr o Wasgwyn yn Ffrainc gael eu cludo i’r wlad yma i gwffio.

“Hefyd, rhywbeth dw i wedi ei sylwi arno, ydy nifer y Cymry oedd ar ochr Edward, ac mae hynny’n nodweddiadol.

“Mae’n werth nodi pa mor dda oedd [Edward] am roi anrhegion i bobol – mae e wastad yn cael ei gofio fel brenin cas, ond dw i wir ddim yn meddwl ei fod e!”

Dilynwch y ddolen hon i gofrestru ar gyfer cyflwyniad Dr Susan Davies:

“Edward I in Wales, 1282-4” Talk given by Dr Susan Davies – on line Tickets, Sat 16 Oct 2021 at 14:00 | Eventbrite