Mae llefarydd ar ran yr ymgyrch Hawl i Fyw Adra yn dweud bod yr argyfwng tai “yn teimlo fel brwydr barhaus”.

Fe wnaeth ymgyrchwyr orymdeithio i bencadlys Cyngor Gwynedd yng Nghaernarfon ddoe (dydd Sadwrn, Medi 25) i alw ar arweinwyr Llywodraeth Cymru a’r Cyngor i gyflwyno rheoliadau llymach ar ail gartrefi mewn cymunedau ledled Cymru.

Flwyddyn ers yr orymdaith o Nefyn, fe wnaeth ymgyrchwyr orymdeithio 17 milltir o Nant Gwrtheyrn i Gaernarfon i dynnu rhagor o sylw at y sefyllfa.

Yn ôl ffigurau Cyngor Gwynedd, mae 60% o drigolion y sir wedi’u prisio allan o’r farchnad dai, gydag oddeutu 11% o stoc dai’r sir yn ail gartrefi.

Mae Hawl i Fyw Adra, a gafodd ei sefydlu gan Gyngor Tref Nefyn, yn galw am adolygiad brys o Gynllun Datblygu Lleol Gwynedd ac Ynys Môn.

Cafodd y cynllun ei gymeradwyo gan y ddau awdurdod yn 2017, ac mae’n helpu i lunio polisïau datblygu lleol ac i benderfynu ym mle dylid codi 8,000 o dai newydd.

Ond yn dilyn tranc ail safle niwclear Wylfa ym Môn a chynnydd di-gynsail mewn prisiau tai ac yn nifer y tai sydd bellach yn ail gartrefi, fe fu galwadau i adolygu’r cynllun “dyddiedig nad yw’n addas ar gyfer ei bwrpas” er mwyn diwallau anghenion pobol leol.

Yn ôl y drefn bresennol, fe allai adolygiad o’r fath gymryd hyd at dair blynedd a hanner arall.

Cyngor yn wfftio pryderon

Mae arweinydd Cyngor Gwynedd wedi wfftio’r awgrym nad yw’r awdurdod yn gweithredu ar frys, gan nodi bod y Cyngor “wedi arwain yr ymgyrch” wrth alw am ddeddfu ar ail gartrefi ac wrth fod yn un o’r cynghorau cyntaf yng Nghymru i godi premiwm 100% ar dreth y cyngor ar eu perchnogion.

Ond mae Hawl i Fyw Adra yn mynnu nad yw’r awdurdod “wedi ymateb yn foddhaol nac wedi cymryd camau rhagweithiol positif”, a bod y cynllun presennol yn “elyniaethus tuag at bobol a chymunedau lleol”.

Yn y rali y tu allan i bencadlys y Cyngor, fe fu Rhys Tudur yn galw ar ran Hawl i Fyw Adra am “weithredu ar unwaith”, gan ddweud y byddai unrhyw beth llai yn gwanhau’r iaith Gymraeg yn ei chadarnleoedd.

Roedd Liz Saville Roberts, Aelod Seneddol Plaid Cymru tros etholaeth Dwyfor Meirionnydd, hefyd yn y rali.

Cynllun annigonol

“Roedd yn rhaid i gynghorwyr wthio’r arweinydd i godi’r premiwm, na ddylai fod yn digwydd ond mae’n teimlo fel brwydr barhaus,” meddai’r Cynghorydd Rhys Tudur.

“Fydd eu cynllun gweithredu tai ddim yn galluogi digon o bobol leol i barhau i fyw yn eu cymunedau, ac rwy’n teimlo bod cynghorwyr wedi cael eu camarwain ynghylch pa mor hawdd fyddai adolygu ac addasu’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd.

“All ein cymunedau ddim aros rhai blynyddoedd i newid polisi oedd yn ddiffygiol ar y cychwyn.”

Ond mae Dyfrig Siencyn, arweinydd Cyngor Gwynedd, yn dweud mai ymchwil ac argymhellion y Cyngor oedd wedi helpu i sbarduno mesurau arfaethedig Llywodraeth Cymru.

“Yn nhermau’r Cynllun Datblygu Lleol, does dim oedi o gwbl,” meddai.

“Mae’r gwaith arwyddocaol hwn wedi dechrau.

“Rhaid i’r Cyngor ddilyn y drefn statudol sy’n golygu casglu gwybodaeth a thystiolaeth ar ystod eang o bynciau, ac ymgynghori’n drylwyr â’n holl drigolion – dyma’r peth cywir i’w wneud.

“Fedrwn ni ddim gwneud newidiadau i’r cynllun ar sail un llythyr gan gynghorwyr.

“Os nad ydi’r gwaith yn cael ei gwblhau’n unol â chanllawiau’r Llywodraeth, mi fedrai’r adolygiad gael ei wrthod, a fyddai’n ein gadael ni mewn sefyllfa lle na fyddai’r newidiadau y gofynnwyd amdanynt gan yr ymgyrchwyr yn cael eu mabwysiadu.

“Tra fy mod yn deall y rhwystredigaeth, byddwn yn awgrymu yn hytrach nag anelu at eu cynghreiriaid, y dylai’r ymgyrchwyr dargedu Llywodraeth Cymru lle gall camau gael eu cymryd.”

‘Haf o weithgarwch’?

Roedd Llywodraeth Cymru wedi bod yn addo “haf o weithgarwch”, gan gynnwys lansio ymgynghoriad yn ddiweddar ar gau eithriad sy’n gallu arwain yn aml at berchnogion ail gartrefi’n osgoi gorfod talu treth i’w hawdurdod lleol.

Ymhlith y mesurau eraill sydd wedi’u hawgrymu mae cynllun cofrestru statudol ar gyfer pob llety gwyliau, gan gynnwys llogi tymor byr, a rhannu’r broses o ddosbarthu cynllunio ar gyfer ail gartrefi.

Ond mae Rhys Tudur yn dweud bod gweinidogion yn “llusgo’u traed”, gan alw eto am ardal beilot lle byddai’n ofynnol i ganiatâd cynllunio fod yn ei le cyn bod modd troi cartref preswyl yn ail gartref.

Gan alw hefyd am Dreth Trafodion Tir o 20% ar ail gartrefi, mae’n nodi bod mesurau yn eu lle yn y Swistir sy’n atal pobol nad ydyn nhw’n drigolion lleol rhag prynu ail gartrefi mewn ardaloedd sydd wedi’u gwarchod.

“Mae Llywodraeth Cymru’n dweud nad oes yna fwled aur ond mae digon o enghreifftiau, does ond angen i chi edrych ar y Swistir er enghraifft,” meddai Rhys Tudur.

“Ym Morfa Nefyn, lle ces i fy magu, does gen i ddim gobaith o fyw yno gan fod y prisiau’n warthus.

“Dyna’r sefyllfa rydyn ni ynddi, mae angen gweithgarwch radical arnom, nid ymgynghoriadau di-ri a chamau bychain.”

Mae Llywodraeth Cymru’n cydnabod yr heriau mae rhai cymunedau’n eu hwynebu, gan nodi eu bod yn adeiladu 20,000 o gartrefi newydd ac mai Cymru yw’r unig wlad yn y Deyrnas Unedig sy’n galluogi cynghorau i dalu hyd at 100% o bremiwm ar dreth cyngor ar gyfer perchnogion ail gartrefi.