Er bod datblygiadau wedi bod yn Nhrelái ers y ‘terfysgoedd bara’ ar ddechrau’r 90au, mae nifer o’r un problemau dal yno, yn ôl y cyflwynydd Jason Mohammad.

Dri-deg mlynedd wedi’r helyntion yn Nhrelái, ystad cyngor mwyaf Ewrop ar un adeg, mae Jason Mohammad am ddweud y stori o safbwynt “boi oedd yn byw yn Nhrelái”.

Beiwyd y terfysg yn wreiddiol ar ddadl rhwng dau berchennog siop ynghylch pwy oedd yn cael gwerthu bara, ond cyfrannodd cymysgedd o ffactorau at yr helynt – gyda rhai’n beio’r tywydd poeth, a diffyg cyfleoedd economaidd a chymdeithasol yn yr ardal.

Cafodd Trelái enw drwg yn y wasg wedi’r terfysgoedd, a wnaeth barhau am bedair noson ar ddechrau Medi 1991.

Bydd DRYCH: Trelái, y Terfysg a Fi, meddai Jason Mohammad, yn gyfle i ddweud stori pobol sydd ddim yn cael bywyd yn hawdd o ddydd i ddydd, ail-nodi’r hanes, a thynnu sylw at broblemau sy’n dal i fodoli yno, ac mewn stadau cyngor eraill dros Gymru. Caiff y rhaglen ei darlledu nos Sul 26 Medi.

“Ail-greu’r stori”

“Dw i’n cofio’r terfysgoedd o ’91, achos dwi i’n foi o Gaerau felly dw i’n gwybod y stori,” meddai Jason Mohammad, a gafodd y syniad am y rhaglen tua phum mlynedd yn ôl, wrth golwg360.

Jason Mohammad

“Roeddwn i eisiau ail-greu’r stori, dweud y stori o safbwynt boi oedd yn byw yn Nhrelái, ond hefyd siarad am y ffaith ei fod e’n anodd iawn, â bod yn onest, tyfu lan mewn ardal stad cyngor.

“Doedd yna ddim lot o waith ar y stad, dim lot o gyfleoedd i bobol ifanc.

“Roeddwn i’n cael y cyfle i ddweud y stori, mae lot o bobol yn siarad a dweud bod o am fara – roedd gwirionedd yn y stori yna, ond roedd hi’n rili poeth hefyd, ac roedd yr heddlu’n dod mewn bach yn heavy handed hefyd.

“Roedd e’n melting pot, roedd hi’n boeth, roedd hi’n haf, roedd rhywbeth yn mynd i ddigwydd, felly dim y bara oedd wedi achosi’r terfysgoedd – roedd e’n gymysgedd lan gyda stwff arall.

“Roeddwn i am ffeindio mas a ydi’r lle wedi newid oherwydd y terfysgoedd, ac ydi’r problemau oedd yn fyw yn ’91 dal ar y stad cyngor.”

“Dim byd lot wedi newid”

Yn ôl Jason Mohammad, roedd hi’n braf bod yn ôl yn Nhrelái, ond roedd yn pryderu a fyddai pawb eisiau siarad gyda chriw teledu.

“Roedd e’n amser anodd iawn yn ‘91, roedd y papurau newydd yn gryf iawn yn erbyn pobol Trelái, yn Llundain ac o gwmpas Cymru,” meddai.

“Roedd yna lot o bobol oedd yn tyfu lan yn Nhrelái yn meddwl ‘Does dim gobaith gyda ni, achos mae’r papurau newydd yn ‘sgrifennu [hyn a hyn]’.

“Doeddwn i ddim yn gwybod os fyddai pobol Trelái yn hapus i siarad gyda ni, ond roedden nhw’n ffantastig.

“Un o’r bois oedd yn siarad gyda ni, roedd e yn y terfysgoedd, roedd e’n taflu petrol bombs at yr heddlu a wedodd e, yn Saesneg, ‘Doeddwn i ddim yn gwybod pam roeddwn i yna, ond does dim byd arall i wneud â bod yn onest Jason’.

Ac i ddangos, efallai, nad oes llawer wedi newid, daw jason ar draws athrawes ysgol yn yr ardal, a ddywedodd fod athrawon yn Nhrelái yn poeni’n ddiweddar a oedd y plant yn gallu bwyta yn ystod y cyfnodau clo tra’r oedd yr ysgol ar gau.

Un arall sy’n siarad ar y rhaglen yw Liam, dyn ifanc sydd wedi’i newid ei fywyd.

Treuliodd gyfnod yn y carchar am ymosod ar rywun yng Nghaerdydd, a thra’r oedd o yno penderfynodd ei fod am helpu pobol ifanc Trelái fel na fydden nhw’n cael yr un profiad.

“Mae Liam yn siarad am setio lan clybiau pêl-droed, clybiau athletau, rygbi. Mae cannoedd o blant yn mynd i’r cae ras lawr yn Nhrelái nawr, ac maen nhw’n hyfforddi a chwarae.

“Mae Liam yn dweud ‘Y peth yw, dw i’n trio cael rhyw fath o obaith i’r plant yma. Ond i fod yn onest, weithiau achos o’r problemau sydd dal yma… Sometimes I think we’re two or three nights away from another riot. Achos dyw’r gwleidyddion a phobol y cyngor, dydyn nhw ddim yn sylweddoli be sy’n digwydd yma’.

“Does yna ddim byd lot wedi newid, ond un peth sydd dal yna yw balchder. Maen nhw’n bobol balch.”

Abertawe a Chaerdydd

Mae’r rhaglen yn dechrau gyda lluniau o’r helyntion diweddar yn ardal Mayhill yn Abertawe, pan gafodd ceir eu rhoi ar dân a’u rowlio lawr yr allt.

Ers blynyddoedd, mae’r ardal wedi cael ei hadnabod gan Lywodraeth Cymru fel un ddifreintiedig yn gymdeithasol ac economaidd.

“Dw i ddim yn gwybod beth oedd yn achosi’r problemau yn Abertawe. Roedd e’n wahanol iawn achos un noson oedd e yn Abertawe, ond gydag un Caerdydd roedd e’n bedair noson,” meddai Jason Mohammad.

“Mae’r problemau yn Abertawe efallai’r un problemau sydd gyda ni yng Nghaerdydd, ac mewn stadau cyngor o gwmpas o wlad.”

Roedd hi’n “wych” cael siawns i wneud rhywbeth arbennig iawn yn y Gymraeg, meddai Jason Mohammad, sydd wedi cyflwyno ambell beth ar S4C yn y gorffennol.

“Roedd hwn yn syniad fi, so i weld y rhaglen ar y teledu… bydd yn emosiynol iawn. Dw i’n diolch, diolch, diolch i S4C am roi’r siawns i fi i ddweud y stori.

“Mae’r rhaglen hon i bobol Trelái, pobol ffantastig, pobol sy’n falch iawn i ddweud eu stori nhw, ac i ddweud bod yna bobol ffantastig sy’n byw yma.

“Yn ystod y blynyddoedd, mae’r cyfryngau, rhaglenni newyddion, papurau newydd, wedi sgrifennu lot o nonsens am bobol Trelái, felly diolch i S4C am roi’r siawns i fi wneud rhywbeth Cymraeg, ond hefyd mae’n rhaglen special i bobol Trelái.

“Dw i’n teimlo balchder, a’r ffaith bod rhywun yn hapus i gomisiynu rhaglen fel hyn sy’n dweud stori bwysig iawn am bobol sy’n byw bob dydd ac mae bywyd yn anodd iddyn nhw.

“Weithiau ar y cyfryngau dydyn ni ddim yn dweud y stori yna, mae’n gyfrifoldeb arnom ni i wneud mwy.

“Wedes i ar y radio’r wythnos ddiwethaf… ‘The next time you think about someone from a council estate, please don’t judge them.’

“Gobeithio dyna’r neges [yn y rhaglen hefyd], a rhoi siawns i bobol.”

  • DRYCH: Trelái, y Terfysg a Fi ar S4C am 9yh, nos Sul, 26 Medi