Mae Trafnidiaeth Cymru wedi ymddiheuro “am unrhyw ddryswch a achoswyd” gan negeseuon electronig gwallus yng ngorsaf drenau’r Trallwng.

Ar hysbysfwrdd uwchlaw’r platfform, roedd arwydd yn yr orsaf ddydd Gwener, Medi 10 yn dweud bod “blaen 2 hyfforddwr” trên ar fin cyrraedd, a bod trên “Pwllheli & Aberystwyth 13:51 ar amser”.

Doedd gan yr hysbyseb ddim oll i’w wneud â dysgu ond yn hytrach, yn dweud bod dau gerbyd trên ar eu ffordd.

Cafodd y cyfeithiad gwael o “front 2 coaches” ei bostio mewn llun ar Twitter gan yr actores Lynwen Haf Roberts.

“A fyddai’n bosib i rywun yn @tfwrail addasu’r arwyddion Cymraeg yng ngorsaf y Trallwng ac unrhyw un arall sy’n gwneud y camgymeriad hwn?” meddai mewn neges.

“‘Cerbyd’ yw coach yng nghyd-destun trenau/’cerbydau’ yw ‘coaches’.

“‘Hyfforddwyr’ yw’r gair am hyfforddwr chwaraeon neu ei debyg. Diolch! #sgymraeg

‘Cydnabod a chefnogi pwysigrwydd iaith a diwylliant’

“Hoffwn ymddiheuro am unrhyw ddryswch a achoswyd gan y neges ar y sgrin gwybodaeth i gwsmeriaid,” meddai llefarydd ar ran Trafnidiaeth Cymru.

“Mae ein tîm Gwybodaeth i Gwsmeriaid yn cywiro hyn er mwyn sicrhau bod y geiriad cywir yn cael ei arddangos.

“Fel sefydliad cwbl ddwyieithog, rydym yn cydnabod ac yn cefnogi pwysigrwydd iaith a diwylliant Cymreig ffyniannus ac yn credu y dylai ein cwsmeriaid bob amser gael cyfle i ryngweithio â ni yn Gymraeg a Saesneg fel ei gilydd.

“Ers cymryd drosodd gwasanaeth rheilffordd Cymru a’r Gororau yn 2018, rydym wedi buddsoddi mewn gwella ein darpariaeth Gymraeg yn sylweddol, gan gynnwys cyflwyno cyhoeddiadau gorsafoedd dwyieithog ledled ein rhwydwaith, uwchraddio cyhoeddiadau dwyieithog ar drenau a gwella arwyddion gorsafoedd dwyieithog.

“Rydym yn cydnabod bod mwy i’w wneud ac mae gennym gynlluniau uchelgeisiol a chyffrous ar gyfer gwneud gwelliannau pellach y byddwn yn eu rhannu maes o law.”