Llun mtbriderdave111 (CCA 1.0)
Mae pris rhentu cartref wedi syrthio yng Nghymru tros y flwyddyn ddiwetha’, gan fynd yn groes i’r rhan fwya’ o ranbarthau economaidd Lloegr.

Pris rhent ar gyfartaledd pob mis yng Nghymru yw £535 – gostyngiad o bron 7% ar fis Hydref y flwyddyn ddiwetha’. Dyna’r cwymp mwya trwy Gymru a Lloegr.

Dim ond un rhanbarth economaidd sy’n rhatach – Gogledd-ddwyrain Lloegr – a dim ond mewn dwy ardal arall y syrthiodd y pris.

Llundain yw’r lle druta’ i rentu gyda’r pris misol ar gyfartaledd bellach yn £1287, a hwnnw wedi codi mwy na 10% yn ystod y flwyddyn ddiwetha’.

Mae’r ystadegau’n cael eu casglu gan asiantaethau tai Your Move a Reeds Rains.