Mae cynghorau Cymru wedi bod yn ymateb i’r sefyllfa yn Affganistan drwy gynnig help i ffoaduriaid.

Mae pob un o’r chwe awdurdod lleol yn y Gogledd wedi ymrwymo i groesawu ffoaduriaid.

Mae dau o bobol eisoes wedi cael eu cartrefu yng Ngwynedd, ac mae’r Cyngor wedi ymrwymo i gartrefu mwy o unigolion dros yr wythnosau nesaf.

Yn ogystal, bydd cynghorau Abertawe, Sir Gaerfyrddin a Chastell-nedd Port Talbot yn derbyn ffoaduriaid, a gallen nhw dderbyn mwy yn y dyfodol – mae adran dai Cyngor Sir Gaerfyrddin eisoes wedi dod o hyd i rywle i dri o deuluoedd fyw.

Mae Cyngor Wrecsam hefyd wedi apelio ar frys i landlordiaid helpu drwy roi llety i ffoaduriaid, ac mae cynghorau lleol eraill yng Nghymru, gan gynnwys Casnewydd, Rhondda Cynon Taf a Chaerffili, wedi cyhoeddi eu bod nhw’n awyddus i helpu.

Dywedodd Cyngor Abertawe y bydd tri theulu yn cyrraedd yno’r mis hwn, ac mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn cynnig cymorth i dri theulu i ddechrau, yna dau arall.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Abertawe: “Mae Abertawe wedi ymrwymo yn barod i helpu teuluoedd o Affganistan.

“Rydyn ni’n croesawu tri theulu’r mis hwn, ac yn edrych tuag at groesawu mwy.”

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod nhw’n gweithio gyda chynghorau i helpu i ddod o hyd i dai i bobol sy’n dianc rhag y sefyllfa yn Affganistan.

“Torcalonnus”

Mae Cyngor Gwynedd yn cydweithio â landlordiaid preifat ac yn gobeithio cydweithio gyda chymdeithasau tai er mwyn darparu cartrefi.

“Mae’r darluniau yr ydym yn ei weld o Afghanistan ar hyn o bryd yn dorcalonnus, ac rydym ni fel Cyngor, wrth gwrs, yn ymrwymo i wneud popeth o fewn ein gallu a’n adnoddau presennol i ddarparu cartref i ffoaduriaid, a darparu cefnogaeth iddynt fedru ail sefydlu o fewn eu cymunedau newydd,” meddai’r Cynghorydd Dyfrig Siencyn, Arweinydd Cyngor Gwynedd.

“Rydym wedi bod yn cydweithio gyda’r Swyddfa Gartref ers wythnosau er mwyn cyflymu ein cynlluniau i gartrefu ffoaduriaid Afghanistan yn dilyn datblygiadau diweddar yn y wlad.

“Ein dymuniad yw cymryd pob cyfle posib i helpu’r dynol ryw mewn argyfwng, a dyna yr ydym yn ei wneud yma, gan obeithio gallu cynnig bywyd gwell i ffoaduriaid mewn angen tra bod eu mamwlad o dan y fath amgylchiadau.”

“Llai na llond llaw”

Dywedodd Andrew Morgan, arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, sy’n cynrychioli’r 22 cyngor, ei bod hi’n bwysig fod awdurdodau lleol yn chwarae eu rhan yn ailsefydlu ffoaduriaid.

“Os ydyn ni’n cytuno i hyn, rydyn ni’n cymryd llai na llond llaw o deuluoedd i bob awdurdodau lleol, felly mae’r niferoedd, â dweud y gwir, yn fach iawn, iawn,” meddai wrth BBC Wales.

“Yr opsiwn arall i’r bobol hyn yw, yn y bôn, y gallen nhw gael eu herlyn yn yr ychydig o wythnosau nesaf os nad ydym ni’n eu helpu nhw.

“Fyddwn i ddim eisiau gweld mewn mis fod nifer o unigolion a theuluoedd yn cael eu lladd yn Affganistan pan roedd gennym ni’r cyfle i helpu nhw i ddod yma, a bod hynny ar fy nghydwybod.”

‘Dylai’r Deyrnas Unedig ymrwymo i fwy’

Daw hyn wedi i Boris Johnson gyhoeddi y bydd hyd at 5,000 o bobol yn cael lloches yn y Deyrnas Unedig eleni.

Ond mae pennaeth elusen Refugee Action wedi mynnu y dylai’r Deyrnas Unedig ymrwymo i fwy na 5,000 o ffoaduriaid mewn blwyddyn.

Dywedodd Louise Calvey: “Mae angen i ni fod yn cydnabod realiti rhyfeloedd parhaus y byd,” meddai, gan ychwanegu y bydd ffoaduriaid sy’n dod o Afghanistan yn cael trafferth yn sgil agwedd bresennol Llywodraeth y Deyrnas Unedig tuag at mudwyr.

“I’r mwyafrif helaeth o bobl, os ydyn nhw’n dod i’r Deyrnas Unedig i hawlio lloches fe fyddan nhw wedi cael teithiau trawmatig i gyrraedd yma a byddant wedi dioddef cryn dipyn o gamfanteisio neu gam-drin ar y daith honno.

“Fe fyddan nhw’n bryderus iawn am aelodau o’u teulu sy’n cael eu gadael ar ôl. Mae llawer o drawma ond mae eu pryder a’u brwydr fwyaf arwyddocaol am statws.”

Ychwanegodd: “Dros yr haf rydyn ni wedi gweld pobl yn cael eu cartrefu mewn barics byddin segur yn ystod andemig – dyma’r profiadau maen nhw’n eu hwynebu o ddydd i ddydd.”

Mae’n credu y bydd y cynllun presennol yn cynnig cymorth y mae mawr ei angen i rai, ond bod angen i’r Llywodraeth roi mwy o sylw i system sydd eisoes wedi’i llethu.

20,000 o ffoaduriaid Affganistan i gael lloches yn y Deyrnas Unedig

Boris Johnson wedi rhoi addewid y bydd hyd at 5,000 o bobl Affganistan yn cael lloches yn y DU eleni