Canolfan Soar, Merthyr Tudful
Fe fydd cynhadledd Mentrau Iaith Cymru yn cael ei chynnal heddiw ac yfory yng nghanolfan Soar, Merthyr Tudful, lle bydd swyddogion yn trafod ‘gwerth economaidd y Gymraeg’.
Fe fydd prif swyddogion a chadeiryddion y 23 Menter Iaith yn dod ynghyd i drafod syniadau am werth a photensial economaidd y Gymraeg.
Caiff y gynhadledd ei chynnal yng Nghanolfan Soar, Merthyr Tudful sy’n arwyddocaol, am fod adroddiadau diweddar yn dangos fod y ganolfan honno’n cyfrannu tua £1.3m i economi de-ddwyrain Cymru bob blwyddyn.
Mae Canolfan Soar yn theatr, siop a chaffi sy’n “ganolbwynt i weithgareddau cymunedol a Chymraeg Merthyr Tudful.”
“Rydym yn edrych ymlaen at gael ymweld â chanolfan ysbrydoledig fel Canolfan Soar ym Merthyr, sydd wedi sbarduno cymaint o weithgarwch cymunedol yn yr ardal ac sydd wedi dod â chyfleoedd newydd i bobol ddefnyddio’r Gymraeg,” meddai Iwan Hywel, Swyddog Hyfforddiant Mentrau Iaith Cymru.
‘Esblygu gwaith y Mentrau Iaith’
Fe fydd Lles Cyf yn ymuno â’r gynhadledd hefyd, fel menter sy’n rhoi hwb i fusnesau yng Nghymru ddefnyddio’r Gymraeg.
“Bydd y gynhadledd yn gyfle gwych i ddwyn profiadau ynghyd a thrafod syniadau newydd er mwyn esblygu gwaith y Mentrau Iaith i’r dyfodol,” ychwanegodd Iwan Hywel.
Mae’n gobeithio clywed mwy am brosiectau arloesol Menter Iaith Merthyr a Chanolfan Soar “sy’n defnyddio’r celfyddydau i fynd i’r afael â threchu tlodi, codi hyder a chreu cymunedau lle y bydd y Gymraeg yn ffynnu.”
Yn ystod y gynhadledd, fe fydd y swyddogion yn edrych ar ffyrdd i ddatblygu’r Mentrau Iaith ac yn trafod datblygiadau’r Gymraeg yn y gymuned. Fe fyddan nhw hefyd yn edrych ar bolisi gwirfoddoli newydd Llywodraeth Cymru – Cefnogi Cymunedau: Newid Bywydau.