Mae adeiladwr o Wynedd wedi cael dedfryd o 16 mis o garchar wedi iddo gael ei gyhuddo o dwyllo cwsmeriaid o bron i £14,000.

Fe blediodd Aron Wyn Roberts yn euog i’r cyhuddiadau o dan y Ddeddf Twyll yn Llys y Goron Caernarfon ddydd Gwener, Gorffennaf 16.

Bydd yn cael ei ryddhau o dan drwydded ar ôl wyth mis.

Tra roedd yn gweithio i gwmni adeiladu A1 Roofing and Building, roedd wedi cymryd blaendaliadau gwerth £13,936.76 gan wyth cwsmer er na chafodd y gwaith ei gwblhau.

Mewn un achos, derbyniodd Roberts daliad o £4,290 am ystafell wydr, a oedd yn ymddangos yn ffug fel archeb ar gyfer cwsmer ym Mehefin 2019.

Roedd Mr Roberts hefyd yn euog o bedair trosedd o dan y Ddeddf Cwmnïau, gan ei fod wedi methu â chynnwys ei enw personol fel unig fasnachwr ar anfonebau a chontractau.

‘Effaith ariannol ac emosiynol sylweddol’

“Dylai’r ddedfryd hon weithredu fel rhybudd i eraill y bydd y sawl sy’n ceisio twyllo aelodau o’r cyhoedd yn fwriadol yn cael eu herlyn,” meddai’r Cynghorydd Gareth Griffith, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros yr Amgylchedd.

“Gall gweithredoedd masnachwyr twyllodrus gael effaith ariannol ac emosiynol sylweddol ar ddefnyddwyr, yn enwedig aelodau mwyaf bregus ein cymunedau.

“Mae’r canlyniad hwn yn dyst i waith caled swyddogion Safonau Masnach y Cyngor ac i’n hymrwymiad i amddiffyn iechyd, diogelwch a lles economaidd trigolion Gwynedd.”