Mae Eglwys Gadeiriol Bangor wedi cael ei hagor fel canolfan frechu ers ddoe (dydd Llun, Gorffennaf 5), a hynny ar ôl i ganolfan frechu torfol Ysbyty Enfys gau ei drysau.

Roedd y ganolfan honno wedi ei lleoli yng nghyfleuster chwaraeon Prifysgol Bangor, Canolfan Brailsford, ers mis Ebrill y llynedd.

Bydd y safle hwnnw wedi ei gau yn llwyr erbyn mis Medi eleni, ac yn gweithredu fel canolfan chwaraeon unwaith eto.

Ers mis Rhagfyr y llynedd, fe fu Ysbyty Enfys yn cael ei ddefnyddio fel canolfan frechu torfol, a llwyddodd y ganolfan i roi 85,000 o frechlynnau.

‘Croeso i bawb’

“Dros y misoedd nesaf, bydd Cadeirlan Sant Deiniol yn cael ei ddefnyddio fel canolfan frechu NHS,” meddai Andy John, Esgob Bangor, mewn fideo gan yr Esgobaeth i groesawu’r ganolfan newydd.

“Bydd miloedd o bobl yn dod yma i chwarae eu rhan yn cadw pawb yn saff.

“Dyma lle gwnaeth Deiniol, bron i 1500 mlynedd yn ôl, sefydlu ei gymuned fynachaidd – y Bangor wreiddiol, ac mae ein cadeirlan wedi bod yn le i weddi, prydferthwch a sancteiddrwydd i’r holl gymuned ers tro.

“Mae’n rhaid i ni gael ein hunain wedi brechu a bydd croeso i bawb o’r gymuned drwy’r drysau hyn dros y misoedd nesaf.

“Mae Cadeirlan Sant Deiniol yma i ni gyd.”