Mae Llywodraeth Cymru yn gwario £4.7m ar annog dros 4,000 o weithwyr â phroblemau iechyd i aros yn y gwaith.
Daw £3.2m o’r arian o goffrau’r Undeb Ewropeaidd.
Bydd y rhaglen ar gyfer gweithwyr mewn busnesau bach a chanolig yn y sector preifat a’r trydydd sector, yn ardaloedd Conwy, Sir Ddinbych, Gwynedd, Ynys Môn, Pen-y-bont ar Ogwr, Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe.
Bydd yr arian yn talu am driniaeth therapiwtig i bobol sy’n absennol o’r gwaith oherwydd salwch hirdymor er mwyn eu helpu i aros yn y gwaith neu i ddychwelyd i’r gwaith yn gynt.
Bydd 130 o weithdai hefyd yn cael eu cynnal i reolwyr a gweithwyr er mwyn ceisio lleihau absenoldebau oherwydd salwch a bydd y rhaglen hefyd yn cynnwys meddygon teulu.
“Enghraifft bositif” o’r Undeb Ewropeaidd
Meddai Mark Drakeford, Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru: “Bydd y rhaglen cymorth-yn-y-gwaith newydd hon yn helpu mwy na 4,000 o bobl sydd â phroblemau iechyd i aros yn y gwaith.”
“Bydd hyn yn helpu i fynd i’r afael â thlodi ac allgau cymdeithasol drwy atal pobl rhag methu gweithio oherwydd problemau iechyd cyffredin, sy’n gysylltiedig â’r system gyhyrysgerbydol neu’r meddwl yn aml.”
Dywedodd Jane Hutt, Gweinidog Cyllid Cymru: “Rydym wedi ymrwymo i helpu pobl sydd â chyflyrau iechyd sy’n cyfyngu ar eu gallu i aros yn y gwaith. Bydd y cynllun hwn yn darparu cymorth ychwanegol a phwrpasol fel y gall y bobl hynny sydd â chyflyrau iechyd aros yn y gwaith a chael dyfodol mwy llewyrchus.
“Mae hyn yn enghraifft bositif arall o sut y mae pobl Cymru yn elwa ar gronfeydd yr UE .”