Mae pump o ddynion bellach wedi cael eu harestio yn dilyn achos o drywanu a cheisio llofruddio yn Aberdâr.

Cafodd tri o’r dynion, sydd i gyd yn 23 oed, eu cludo i’r ysbyty yn dilyn digwyddiad y Stryd Whitcombe am oddeutu 8.25yh neithiwr (nos Sadwrn, Mehefin 12).

Mae dau bellach wedi cael mynd adref.

Mae dyn 19 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o geisio llofruddio, ac mae un arall wedi’i arestio ar amheuaeth o ffrwgwd ac o achosi niwed corfforol difrifol.

Yn ôl yr heddlu, dydy bywyd y dyn yn yr ysbyty ddim mewn perygl erbyn hyn, ac mae e a dau ddyn arall wedi cael eu harestio ar amheuaeth o anhrefn dreisgar.

Mae pedwar yn dal yn y ddalfa a’r llall yn yr ysbyty ond hefyd wedi’i gadw yn y ddalfa.

Mae’r ymchwiliad yn parhau, ac mae’r heddlu’n apelio am dystion a gwybodaeth.