Mae neo-Natsi, a oedd yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth ac sy’n fab i academyddion dosbarth canol, wedi’i ganfod yn euog o droseddau terfysgaeth a hiliaeth ar y We.

Fe wnaeth Andrew Dymock, 24, ddiolch i’r rheithgor “am fy lladd i” ar ôl cael ei ganfod yn euog o 15 cyhuddiad, gan gynnwys 12 yn ymwneud â therfysgaeth, yn dyddio’n ôl i 2017 a 2018.

Roedd yn astudio Gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth pan gyflawnodd y troseddau.

Clywodd llys yr Old Bailey heddiw (11 Mehefin) iddo hybu’r grŵp adain dde eithafol System Resistance Network (SRN), sy’n “ceisio achosi rhyfel hil”, ar Twitter ac ar y We.

Defnyddiodd blatfformau digidol i godi arian at goffrau’r mudiad, a oedd “ddim yn goddef” cymunedau nad ydyn nhw’n wyn, Iddewon na Mwslemiaid, ac a oedd yn disgrifio bod yn hoyw fel “afiechyd”.

Mae’r mudiad bellach wedi’i wahardd.

Fe wnaeth yr heddlu hefyd ddarganfod llun ar un o ddyfeisiadau Dymock, sy’n byw yng Nghaerfaddon gyda’i rieni, yn dangos swastica wedi’i gerfio ar ben-ôl ei gariad, a dywedodd y dihiryn mewn cyfweliad yn 2019 ei fod wedi defnyddio ei ewin i’w wneud.

Yr achos

Gwadodd Dymock mai ef oedd yn gyfrifol am y cyfrifon ar y We gan ddweud ei fod wedi cael ei fframio gan ei gyn-bartner, a oedd wedi methu â’i recriwtio i’r grŵp terfysgol National Action (NA).

Dywedodd wrth y rheithgor fod pobol yn gweithredu yn ei erbyn yn cynnwys “pobol yn yr heddlu ac asiantaethau eraill” sy’n cydymdeimlo â’r NA ac yn ceisio amddiffyn ei gyn-gariad.

Cafodd ei ganfod yn euog o bum cyhuddiad o annog terfysgaeth, dau o godi arian tuag at derfysgaeth, pedwar o rannu cyhoeddiadau terfysgol, bod yn berchen dogfen derfysgol, achosi casineb hiliol a chasineb ar sail cyfeiriadedd rhywiol, a bod yn berchen deunydd radical tanllyd.

Caeodd Dymock ei lygaid ac ysgwyd ei ben wrth glywed y dyfarniad, cyn edrych ar ei rieni, Stella a Dr David Dymock, sy’n Athro Deintyddiaeth ym Mhrifysgol Bryste.

Gyda dagrau yn ei lygaid gofynnodd i gael dweud hwyl fawr wrth ei rieni cyn mynd i’r celloedd, gan ddweud wrth y rheithgor “diolch am fy lladd i”.

Dywedodd ei fam mai “National Action sydd wedi gwneud hyn”.

Bydd yn cael ei ddedfrydu ar Fehefin 24, a’i gadw yn y ddalfa tan hynny.

“Ymlyniad i gred neo-Natsi”

Dywedodd yr erlynydd Jocelyn Ledward nad oedd Dymock yn cael ei erlyn am fod â daliadau hiliol, gwrth-Semitaidd na homoffobic, ond am ei “ymlyniad i gred neo-Natsi”.

“Yn hytrach, mae’n wynebu erlyniad am annog gweithredoedd terfysgol, trais, fel ffordd i siapio cymdeithas yn unol â’i ddaliadau, yn hytrach na thrwy ryddid mynegiant a democratiaeth”.

Fe wnaeth Dymock wadu bod yn neo-Nasti, a dywedodd wrth yr heddlu “dw i’n ddeurywiol, ond yn tueddu tuag at fod yn hoyw, sy’n mynd yn uniongyrchol groes i Natsïaeth”.

Dywedodd wrth y rheithgor ei fod yn berchen ar gopi o Mein Kampf, ynghyd â llyfrau am Sataniaeth – ar gyfer gwneud “ymchwil” ar boblyddiaeth adain dde.