Mae’n “rhyddhad mawr” cael trefnu a chynnal gigs eto, wedi blwyddyn a mwy o beidio gwneud hynny, meddai rheolwr lleoliad sy’n gadarnle i gigs Cymraeg yn y gogledd.

Fel rhan o Ŵyl Gwenllïan, bydd Gwilym Bowen Rhys a Neil ‘Maffia’ yn perfformio mewn gig yn Neuadd Ogwen nos fory (12 Mehefin), sef y gig gyntaf i gael ei chynnal yno ers mis Chwefror 2020.

Mae Dilwyn Llwyd, rheolwr Neuadd Ogwen, yn disgwyl y bydd hi’n noson “reit emosiynol”, ac y bydd y gig yn “dipyn o beth”.

Dyma’r ail dro i Ŵyl Gwenllïan gael ei chynnal, a bydd digwyddiadau amrywiol yn cael eu cynnal dros y penwythnos – gan gynnwys gweithdy celf a llenyddiaeth i blant, a chyflwyniad i hanes y dywysoges Gwenllïan gan y Prifardd a’r hanesydd lleol Ieuan Wyn.

Bydd taith o gwmpas olion Garth Celyn, man geni Gwenllïan, yng nghwmni’r archeolegwr Rhys Mwyn yn rhan o’r arlwy hefyd.

“Dipyn o beth”

“Rydyn ni wedi bod yn cynnal sinema yn barod, a’r tro cyntaf i ni gynnal sinema roedd o’n teimlo fel rhywbeth reit emosiynol,” meddai Dilwyn Llwyd wrth golwg360.

“Ti ddim yn sylweddoli tan ti’n ei wneud o, tan ti’n cael cynulleidfa mewn, pa mor emosiynol mae o’n gallu bod.

“A dw i’n meddwl bydd o’n fwy ar gyfer gig, oherwydd rydyn ni’n ganolfan sy’n adnabyddus am gerddoriaeth byw.

“Dw i’n meddwl bydd o’n dipyn o beth â dweud y gwir.

“Mae hi wedi bod yn amser hir, dw i’n meddwl mai Chwefror flwyddyn ddiwethaf oedd y tro diwethaf i ni wneud gig. Mae’n flwyddyn a chwarter, sy’n teimlo fatha oes.”

Gwilym Bowen Rhys a Neil ‘Maffia’ fydd yn perfformio yn Gig Gŵyl Gwenllïan, dau sy’n lleol i’r ardal.

“Mae o’r ffordd fwyaf diogel o’i wneud o, fyddwn i’n gwneud o efo pellter cymdeithasol a diogelwch Covid yn ganolog i be rydyn ni’n ei wneud, a dilyn yr un drefn ag yr ydyn ni wedi bod yn ei wneud efo’r sinema,” eglura Dilwyn.

“Os yw’r artistiaid yn lleol, mae o’n cyd-fynd efo’r ethos o beidio cael pobol yn teithio efo Covid, a chadw pobol yn lleol.”

“Rhyddhad mawr”

Er na fu perfformiadau byw, mae criw Neuadd Ogwen wedi bod yn cynnal digwyddiadau ar y We.

“Fe wnaethon ni wneud Gŵyl Rithiol Ara Deg, ac roedd hwnna’n eithaf diddorol achos fe wnaethon ni wneud fideos tu allan o artistiaid yn perfformio,” eglura Dilwyn.

Roedd Gruff Rhys, Cerys Hafana, Rhodri Davies, N’famady Kouyaté, a Brìghde Chaimbeul o’r Alban ymysg yr artistiaid oedd yn rhan o’r ŵyl rithiol.

“Rydyn ni wedi bod yn gwneud trafodaethau rhithiol, ac rydyn ni hefyd wedi bod yn cydweithio’n gwneud rhaglenni i Lŵp i S4C.

“Neuadd Ogwen a Targed ddaru setio fyny Stafell Fyw, ac rydyn ni’n gweithio ar gyfres newydd rwan, Ar Dâp.

“Rydyn ni wedi arallgyfeirio o ganlyniad i Covid. Rydyn ni wedi bod yn andros o brysur, a bod yn onest,” ychwanegodd.

“Yn amlwg, roedd ein hincwm arferol ni wedi diflannu felly roedden ni wedi bod yn gwneud ceisiadau grant a chwilio am ffyrdd newydd o wneud arian fel ein bod ni’n gallu cario ymlaen i fynd.

“A chymryd y cyfle hefyd i ehangu a datblygu safle we newydd, a meddwl am ffyrdd i wella ar gyfer y dyfodol.

“Alla i ddim disgrifio [pa mor falch dw i fynd yn ôl at gigs], dim admin ydy fy swydd i fod.

“Trefnu digwyddiad ydy be dw i’n garu ei wneud, a threfnu gigs. Felly mae’n rhyddhad mawr.”