Cafodd disgyblion dwy ysgol yng Ngheredigion alwad Zoom annisgwyl yr holl ffordd o Baku, prifddinas Azerbaijan, ddydd Iau (10 Mehefin).

Pwy oedd yno? Neb llai na Ben Davies, yr amddiffynnwr sydd â 50 o gapiau dros Gymru ac un o arwyr twrnament Ewro 2016.

Mae Ben Davies yng ngwersyll hyfforddi Cymru ar hyn o bryd cyn eu gêm agoriadol yn nhwrnamaint Ewro 2020 yn erbyn y Swistir ddydd Sadwrn.

Mynychodd Ben, a anwyd yng Nghymru, Ysgol Gyfun Ystalyfera, Castell-nedd Port Talbot.

A ddoe fe gafodd disgyblion o Flwyddyn 3 i Flwyddyn 6 Ysgol Gynradd Penrhyn-coch a disgyblion Blwyddyn 7 Ysgol Uwchradd Penweddig yn Aberystwyth gyfle i’w gyfweld.

Cynhaliwyd y cyfweliad, a drefnwyd gan griw Siarter Iaith Ceredigion, drwy gyfrwng y Gymraeg.

Nid oedd yr un o’r disgyblion yn gwybod am y cyfweliad ymlaen llaw, ond cawson nhw gliw gan yr ysgolion, wnaeth ofyn iddyn nhw wisgo crysau coch.

“Profiad arbennig”

“Dw i mewn sioc o weld un o fy arwyr yn fyw ar Zoom,” meddai Liwsi Curley, disgybl yn Ysgol Penrhyn-coch.

“Mae e wedi bod yn brofiad arbennig ac un o brofiadau mwyaf hapus fy mywyd. Diolch yn fawr Ben Davies. Ewch amdani Gymru!”

 Pennaeth Ysgol Penweddig wrth ei fodd

“Braf oedd gweld ymateb disgyblion blwyddyn 7 i’r sesiwn gyda Ben Davies heddiw,” meddai Dr Rhodri Thomos, Pennaeth Ysgol Penweddig.

“Roedd y disgyblion wedi gwerthfawrogi’r cyfle i ddarganfod mwy am y profiad o gynrychioli’ch gwlad a phwysigrwydd ymarfer, gwaith caled a dilyn cyngor eraill er mwyn llwyddo.

“Mae disgyblion blwyddyn 7 wedi cynhyrfu ac yn edrych ymlaen at gefnogi Cymru yn y gystadleuaeth dros yr wythnosau nesaf.

“Pob lwc i’r tîm yn Rhufain a Baku!”

Yn dilyn y cyfweliad dywedodd Ben Davies: “Roedd hi’n hyfryd siarad gyda’r plant a gweld y gefnogaeth sydd yna i ni – WAW!”