Mae Mark Drakeford wedi cyhuddo Gweinidog Iechyd Llywodraeth y Deyrnas Unedig o wneud “sylwadau sy’n syml yn ffeithiol anwir” ynghylch rhaglen frechu Cymru.
Wrth ymateb, dywedodd Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, mai rheoli cyflenwad yn effeithiol sy’n gyfrifol am lwyddiant y rhaglen yng Nghymru, nid cyflenwad ychwanegol gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.
Yn ôl Matt Hancock, mae rhaglen Lloegr yn arafach gan eu bod nhw’n defnyddio “buffer”, a bod rhaid iddyn nhw sicrhau fod digon o gyflenwad ar gyfer ail ddosau, tra bod Cymru’n gallu dibynnu ar gyflenwad Lloegr.
“Mae hynny’n ffeithiol anwir,” meddai Mark Drakeford wrth raglen Newsnight y BBC.
“Dydyn ni heb ddefnyddio dim ar buffer Lloegr, rydyn ni’n rheoli’n cyflenwad ein hunain, a’r ffordd mae’r rhaglen wedi cael ei threfnu a’i chyflwyno yng Nghymru sy’n gyfrifol am y ffaith fod gennym ni rai o’r cyfraddau brechu gorau yn y byd.”
“Rhy obeithiol”
Ychwanegodd Mark Drakeford hefyd na fydd e’n dilyn Lloegr ac yn cyhoeddi dyddiad ar gyfer llacio’r holl gyfyngiadau.
“Dw i’n meddwl ei bod hi’n rhy obeithiol i ddweud fod y brechu wedi torri’r cysylltiad rhwng mynd yn sâl a chael eich derbyn i’r ysbyty gyda’r amrywiolyn Delta newydd,” meddai’r Prif Weinidog.
“Dydyn ni ddim yn gwybod hynny’n ddigon i fod yn hyderus fod y brechu am ein hamddiffyn yn yr union ffordd honno.
“Mae llawer o ryddid yng Nghymru’n barod. Y mwyafrif o bethau nad oedd pobol yn gallu eu gwneud cynt, maen nhw’n gallu eu gwneud nhw’n barod.”
Cymru’n brechu’n gyflymach ‘oherwydd eu bod nhw’n gallu dibynnu ar gyflenwad Lloegr os ydyn nhw’n rhedeg allan’