Mae reidiwr beic modur wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad â char ger Dolgellau.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i’r digwyddiad ar ffordd A494 rhwng Llanuwchllyn a Rhydymain am oddeutu 3.15 brynhawn ddoe (dydd Llun, Mai 31).

Bu farw’r beiciwr modur yn y fan a’r lle ar ôl bod mewn gwrthdrawiad â char Volkswagen Golf.

Cafodd teithiwr ei gludo i’r ysbyty yn Lerpwl ag anafiadau difrifol, tra bo gyrrwr y car wedi cael man anafiadau.

Mae’r heddlu’n apelio am dystion.