Cafodd pobol ifanc 16 ac 17 oed yr hawl i bleidleisio am y tro cyntaf yn etholiad y Senedd yr wythnos ddiwethaf, ac mae ambell un ohonyn nhw wedi sôn wrth golwg360 am y “siom” nad oes fawr o newid i’r Llywodraeth.

Er bod rhai pethau “positif” wedi dod o’r etholiad, mae Dafydd Hedd o Fethesda a Glain Williams o Drawsfynydd yn synnu cyn lleied o bobol ifanc bleidleisiodd.

Roedd yr ystadegau cyn yr etholiad yn dangos bod miloedd o bobol ifanc 16 ac 17 oed heb gofrestru i bleidleisio.

“Siom nad oes yna lot yn newid”

Cyn yr etholiad, dywedodd nifer o bobol ifanc wrth golwg360 eu bod nhw’n awyddus i weld gwleidyddiaeth yn dod yn rhan o’r cwricwlwm.

“Ro’n i’n teimlo bod yna siom bron nad oes yna lot yn newid, ond roedd o ychydig bach yn anochel y bysa Llafur yn ennill seddi oherwydd y ffaith fod y Cymoedd wastad wedi mynd am Lafur, a dydy Cymru heb bleidleisio dim byd ond Llafur ers 1922,” meddai Dafydd Hedd, a oedd yn 17 oed ar ddiwrnod yr etholiad, wrth golwg360.

“Ond y peth ydy, mae yna margins on’d oes. Os fysa Llafur wedi cael tua 26 sedd, fysa nhw wedi gorfod gweithio gyda rhywun fel Plaid Cymru, ac efallai y bysa wedi bod yn ddefnyddiol cael llais rhywun arall.

“Ond y ffaith eu bod nhw wedi cael cymaint o seddi a bod Leanne [Wood] wedi colli’i lle – mae’n reit drist i fi, achos mae’n golygu nad ydy’r llais am Gymru, y llais am annibyniaeth, mor gryf ag oedd o o’r blaen, efallai, yn y Senedd – sy’n golled fawr i ni.

“O ran blaenoriaethau’r Blaid, ro’n i wedi synnu braidd pam eu bod nhw’n rhoi cymaint o adnoddau [i’r ras yn Llanelli]. I fod yn onest, cafodd Plaid eu llorio yn Llanelli ac Aberconwy.”

Wrth siarad gyda BBC Radio Wales, dywedodd Leanne Wood fod Plaid Cymru wedi “cymryd cam yn ôl” yn yr etholiad, a fod gan yr “arweinyddiaeth a’r strategwyr waith crafu eu pennau”.

Fe wnaeth Richard Wyn Jones drafod cryn dipyn am ddiffyg trefniadaeth Plaid Cymru y tu hwnt i’w cadarnleoedd ar raglen etholiadaol S4C hefyd, gyda Ben Lake yn cytuno bod angen efelychu’r patrwm mewn rhannau eraill o’r wlad.

“Dw i’n meddwl fod y canlyniadau yn y Gogledd Ddwyrain yn Wrecsam ac ati’n rili, rili da. Roedd Plaid Cymru yn cael ffracsiwn lot mwy o’r bleidlais na’r hyn roedden nhw’n arfer ei gael, yr un peth efo llefydd fel Sir Drefaldwyn,” meddai Dafydd, sy’n astudio ar gyfer Safon Uwch yn Ysgol Tryfan ym Mangor.

“Dw i’n gwybod fod o’n rhywbeth reit fach, ond mae’n golygu eithaf lot fod rhanbarthau sydd ddim yn draddodiadol gefnogol o syniadau annibyniaeth a Phlaid Cymru, a gwleidyddiaeth fwy i’r chwith… fod hynny’n digwydd.”

Symudiad Llafur yn “dal i weithio”

Yn etholiadau lleol Lloegr, fe wnaeth y gefnogaeth tuag at y Blaid Lafur grebachu, ac roedd yn ymddangos fod pleidleiswyr UKIP, a chefnogwyr Brexit, wedi rhoi eu pleidlais i’r Ceidwadwyr.

“Efo Keir Starmer mae’n gwneud i chi feddwl, beth sy’n digwydd yn Lloegr?” gofynnodd Dafydd.

“Ydi’r Blaid Lafur yn troi’n blaid ar gyfer stiwdants, ac ardaloedd metropolitaidd?

“Dydy hynny’n amlwg heb ddigwydd yng Nghymru, mae Mark Drakeford wedi cadw at sosialaeth. Mae o’n sosialydd from head to toe.

“Efo Drakeford a’r Blaid Lafur yng Nghymru, mae’n dangos fod y symudiad Llafur yn dal i weithio. Lle efallai dydy o ddim mewn llefydd eraill. Felly mae hynny reit bositif.

“Dw i’n meddwl y bydd yna newid, ond fydd o ddim yn newid dramatig.

“Gall lot o bethau da ddod allan o hyn,” meddai Dafydd wedyn, wrth gyfeirio at y newidiadau i’r cwricwlwm.

“Dw i’n meddwl o ran o cyfiawnder cymdeithasol, mae’n rhoi mandad i fynd yn lot fwy, dim extreme a radical, ond lot fwy treiddgar.”

“Os fysa nhw’n gallu cael gwared ar BAC fysa hynny reit neis…”

“Mae’n dangos fod yna awydd am ffederaliaeth, mewn ffordd. Er, dw i ddim yn gefnogol iawn,” meddai Dafydd, wrth ddweud fod yr etholiad yng Nghymru a Lloegr yn etholiad yn ymwneud â dyfodol y Deyrnas Unedig, yn fwy na gydag annibyniaeth.

“Ond os nad ydy annibyniaeth yn gallu digwydd, dw i’n meddwl y byddai’n beth da iawn fod Cymru’n rhan o Deyrnas Unedig teg.

“Ar y funud, ac mae Mark Drakeford wedi dweud ei hun, dydy’r undeb ddim yn deg iawn.

“Os ydy’r Undeb yn gallu newid, er yn amlwg dw i isio annibyniaeth, o ran gwneud ein bywydau ni’n well… os allith Llafur weithio’n well gyda Boris Johnson er mwyn gwneud i’r undeb weithio’n well i Gymru, fysa hynny’n beth da.

“Mae yna lot o bethau da wedi digwydd gan Lafur, fel y 5p bag charge, efallai nad ydyn nhw’n digwydd mor aml, ond mae ganddyn nhw rai syniadau da.

“A dw i’n edrych ymlaen i weld be’ fyddan nhw’n ei wneud… maen nhw lot gwell na syniadau’r Torïaid.

“Ond os fysa nhw’n gallu cael gwared ar BAC fysa hynny reit neis hefyd, dyna’r unig beth Tori ro’n i isio i ddigwydd yn anffodus!”

“Siomedig” fod cyn lleied o bobol ifanc wedi pleidleisio

Mae Glain Williams yn dal i gredu y dylid fod wedi gwneud mwy i annog pobol ifanc i ymddiddori mewn gwleidyddiaeth cyn yr etholiad.

“Wedi siarad gyda phobol ifanc wnaeth bleidleisio ro’n i reit siomedig efo niferoedd y bobol 16 i 18 oed wnaeth fynd allan i bleidleisio,” meddai Glain, sy’n ddisgybl Chweched Dosbarth yn Ysgol y Berwyn, gan adleisio syndod Dafydd fod cyn lleied o bobol o’i ddosbarth wedi pleidleisio.

“Dw i’n meddwl bod wir angen canolbwyntio ar yr oedran yma at y tro nesaf, a fyswn i wedi hoffi gweld mwy yn cael ei wneud i godi ymwybyddiaeth a diddordeb ymhlith y grŵp hwn cyn yr etholiad.

“Hefyd, ro’n i’n hapus ofnadwy fod Plaid Cymru wedi ennill yn etholaeth Dwyfor Meirionnydd, a bod y blaid wedi cael cymaint o gefnogaeth yn yr ardal.”

Mae Mabon ap Gwynfor, ŵyr Gwynfor Evans, wedi’i ethol yn Aelod Seneddol dros Ddwyfor Meirionnydd, ar ôl i Dafydd Elis-Thomas gamu o’r neilltu eleni.

“Er hynny, ro’n i reit siomedig nad oedd Plaid Cymru wedi cael mwy o seddi yn y Senedd,” meddai Glain.

Er bod Plaid Cymru wedi colli’r Rhondda, mae ganddyn nhw 13 o seddi yn y Senedd ar ôl gwneud enillion ar y rhestr ranbarthol – dwy sedd yn fwy nag yr oedd ganddyn nhw ar ddiwedd y tymor diwethaf, wedi i Dafydd Elis-Thomas ddod yn aelod annibynnol.

Ychwanegodd Glain ei bod hi’n “edrych ymlaen” at yr etholiad nesaf.