Mae Syr Keir Starmer yn teithio drwy seddi gogledd Cymru heddiw (dydd Mawrth, Ebrill 4) i annog pleidleiswyr i gefnogi Llafur Cymru a Mark Drakeford yn etholiad y Senedd ddydd Iau (Ebrill 6).
Wrth ymweld â thair etholaeth – Dyffryn Clwyd, Delyn a Wrecsam – bydd arweinydd Llafur yn San Steffan yn galw ar bleidleiswyr i gefnogi arweinyddiaeth “ofalus” Mark Drakeford yn ystod y pandemig Covid-19.
Bydd yn dweud mai nawr yw’r amser i roi’r arfau i Mark Drakeford orffen y gwaith a rhoi hwb i adferiad swyddi yn gyntaf Cymru.
Ymhlith ei addewidion ar gyfer y gogledd mae creu swyddi, ysgol feddygol newydd a choedwig genedlaethol.
Daw ymweliad arweinydd Llafur yn San Steffan wrth i Mark Drakeford ganfasio mewn seddi yn y de, gan gynnwys y Rhondda, Llanelli a Phen-y-bont ar Ogwr.
“Dyfodol tecach a mwy llewyrchus”
“Mae Mark Drakeford wedi gwneud gwaith gwych fel Prif Weinidog yn y cyfnod mwyaf anodd,” meddai Syr Keir Starmer.
“Mae wedi bod yn ofalus ac yn ystyriol drwy gydol y pandemig, gan ddilyn y wyddoniaeth bob amser a chadw Cymru’n ddiogel.
“Bydd Llafur Cymru yn darparu swyddi, ysgol feddygol newydd a choedwig genedlaethol newydd i Ogledd Cymru, gan adeiladu dyfodol tecach a mwy llewyrchus.
“Mae cefnogi ymgeiswyr Llafur Cymru ddydd Iau yn golygu cefnogi cynllun adfer y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.
“Mae’n golygu gwarant swydd, addysg neu hyfforddiant i bobol ifanc, ac mae’n golygu mwy o heddlu cymunedol ar batrôl.
“Mae’n bleidlais i symud Cymru yn ei blaen.”
“Cynllun uchelgeisiol a chredadwy”
“Mae ein neges yn nyddiau olaf yr ymgyrch hon yn glir: os ydych yn gwerthfawrogi’r cynnydd rydym wedi’i wneud gyda’n gilydd ac eisiau iddo barhau, mae’n rhaid i chi bleidleisio dros hynny,” meddai Mark Drakeford, prif weinidog Cymru.
“O dan ein Llywodraeth Lafur yng Nghymru y mae gan Gymru’r gyfradd frechu gyflymaf yn y Deyrnas Unedig.
“Oherwydd Llafur Cymru y mae presgripsiynau am ddim, mae ysgolion newydd wedi’u hadeiladu, ac mae Cymru wedi dod yn genedl ailgylchu sy’n arwain y byd.
“Mae pleidlais i unrhyw un heblaw Llafur Cymru yn creu’r perygl o Lywodraeth Dorïaidd sy’n dadwneud yr holl waith hwnnw.
“Mae gennym gynllun uchelgeisiol a chredadwy ar gyfer adfer sydd, yn wahanol i bleidiau eraill, yn gallu ac yn mynd i gael ei gyflawni o fewn pwerau a chyllideb Cymru.”