Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn dweud eu bod nhw eisiau gwyrdroi polisi Llywodraeth Lafur Cymru o rwystro menter porthladdoedd rhydd Llywodraeth Geidwadol Prydain.

Maen nhw’n dweud bod angen “rhoi hwb i injan ddiwydiannol Cymru i ailadeiladu Cymru” gan gydweithio â Llywodraeth Prydain ar fuddsoddiad a phrosiectau isadeiledd.

Maen nhw’n cyhuddo Llafur o fod yn “benderfynol o frwydro yn erbyn Llywodraeth y Deyrnas Unedig bob cam” gan ddweud y “byddai’n well ganddyn nhw weld swyddi’n cael eu colli yng Nghymru na chydweithio â gweinidogion Ceidwadol ar brosiectau allweddol megis porthladdoedd rhydd a ffyrdd”.

Maen nhw’n dweud y byddai gwyrdroi’r polisi’n arwain at ddatblygu mwy na 15,000 o swyddi.

Mae porthladdoedd rhydd wedi’u lleoli o amgylch porthladdoedd llongau ac maen nhw’n gallu adfywio ardaloedd ac economïau.

Beth yw porthladdoedd rhydd?

Dydy nwyddau sy’n cyrraedd porthladdoedd rhydd o dramor ddim yn destun costau trethi, neu dariffau, sydd fel arfer yn cael eu talu i’r llywodraeth.

Dim ond os yw nwyddau’n gadael porthladdoedd rhydd ac yn cael eu symud i rywle arall yn y Deyrnas Unedig y bydd rhaid talu trethi – fel arall, maen nhw’n cael eu hanfon dramor heb fod angen talu costau.

‘Gemau gwleidyddol plentynnaidd’

“Byddwn ni’n rhoi terfyn ar gemau gwleidyddol plentynnaidd Llafur ym Mae Caerdydd, ac yn cydweithio â chydweithwyr Ceidwadol i gyflwyno adferiad economaidd hirdymor ledled Cymru,” meddai Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig.

“Bydd ein cynllun economaidd yn ein galluogi ni i adeiladu Cymru well ar ôl y pandemig a phenderfyniadau gwael a chyfleoedd coll ugain mlynedd o lywodraethau Llafur.

“Byddwn ni’n cyflwyno mwy o swyddi a sicrwydd i bawb yng Nghymru, gan ddechrau drwy wyrdroi penderfyniad rhyfedd Llafur i rwystro porthladdoedd rhydd am y rheswm syml mai menter Llywodraeth y Deyrnas Unedig oedd hi.

“Bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn ailadeiladu ac yn ailgydbwyso ein heconomi fel y gallwn ni lefelu i fyny ledled Cymru gyfan, gyda thechnoleg newydd, buddsoddiad newydd a 65,000 o swyddi newydd.”