Mae cannoedd o gartrefi heb bŵer a theithwyr wedi trafferthion ar ôl i wyntoedd o tua 75mya daro Cymru.

Cafodd rhai o brif ffyrdd Cymru eu heffeithio tra bod eraill wedi eu cau – fel yr A5 ger Tregarth yng Ngwynedd, a gaewyd oherwydd fod coeden wedi disgyn.

Roedd cyfyngiadau ar Bont Hafren yr M48, rhwng Cas-gwent a Bryste, a Phont Britannia yr A55, rhwng Bangor ac Ynys Môn, oherwydd gwyntoedd cryfion.

Maer rhagor na 300 o gartrefi ledled Cymru heb bŵer.

Cafodd gwyntoedd o 74mya eu recordio oddi ar y Mwmbwls yn Abertawe.

Cafodd yr A470 ei chau am tua dwy awr yn Nolgellau oherwydd llifogydd, ond fe’i hailagorwyd toc ar ol 3yp

 

Caewyd yr A470 tua’r de hefyd yn Abercynon yn Rhondda Cynon Taf oherwydd damwain ac achoswyd ciwiau hir.

Bu oedi hefyd ar yr A55 yng ngogledd Cymru ac ar yr A40 ger Caerfyrddin oherwydd gŵyl y banc.

Mae gwyntoedd cryfion wedi achosi cyfyngiadau cyflymder ychwanegol ar bontydd ledled Cymru.

Mae’r terfyn cyflymder ar Bont Britannia yr A55 wedi’i osod i 30mya, gyda chyfyngiadau ar gyfer beiciau modur a charafannau.

Mae lôn ar gau ar Bont Hafren yr M48, gyda therfyn cyflymder wedi’i osod i 40mya.

Roedd Pont Cleddau rhwng Doc Penfro a Hwlffordd wedi’i chau i gerbydau uchel eu hochr.

Amharwyd ar wasanaethau trên hefyd ar Reilffordd Dyffryn Conwy rhwng Blaenau Ffestiniog a Llandudno oherwydd llifogyddDywedodd y Swyddfa Dywydd fod tarfu ar drafnidiaeth yn debygol, gyda thonnau mawr yn effeithio ar ardaloedd arfordirol.

Daeth rhybudd hefyd am ddifrod posibl wrth i ganghennau coed ddisgyn ar ffyrdd.

Yn ôl Western Power Distribution, roedd rhagor na 300 o gartrefi heb bŵer y prynhawn yma gan gynnwys Llanarth, Ceredigion a Pontcanna yng Nghaerdydd, Llandrindod, Aberdâr a Hwlffordd.

Dywedodd SP Energy Networks y bu tarfu ar rai cyflenwadau trydan yng ngogledd Cymru gan gynnwys pentref Rhiwlas, ger Bangor ond gyda phŵer wedi’i adfer yn Llanfairfechan a Phwllheli, yn ogystal â Biwmares.