Gydag ond wythnos i fynd tan etholiad y Senedd, mi fydd arweinwyr y pleidiau yn mynd benben â’i gilydd mewn dadl deledu byw yn ddiweddarach.

Bydd arweinwyr Llafur, y Ceidwadwyr, Plaid Cymru, y Democratiaid Rhyddfrydol, a Phlaid Diddymu’r Cynulliad yn cymryd rhan yn ystod awr gyntaf rhaglen BBC Wales Leaders’ Debate.

Ac mi fydd Reform UK, y Blaid Werdd, ac UKIP yn cymryd rhan yn ystod yr ail ran, hanner awr o hyd.

Dyma ail ddadl deledu’r ymgyrch etholiadol hwn – cynhaliwyd y cyntaf gan ITV Cymru – a daw yn sgil cryn ffraeo ynghylch pwy ddylai gymryd rhan.

Mae’r BBC wedi caniatáu i Blaid Diddymu’r Cynulliad gymryd rhan yn y brif ddadl yn sgil cryn gwyno gan y Diddymwyr. Wnaeth y penderfyniad yma, yn ei dro, danio gwrthwynebiad gan Blaid Cymru.

Bu’r Gwyrddion hefyd yn cwyno am nad oedd gwahoddiad iddyn nhw yn wreiddiol ac mi wnaeth y Ceidwadwyr ochri â nhw. Mae’r Blaid Werdd yn parhau’n anhapus â’r fformat.

Bydd y ddadl deledu yn cael ei darlledu am 20.30 yr hwyr ar BBC One Wales a BBC iPlayer.

Yr arweinwyr

  • Llafur: Mark Drakeford
  • Ceidwadwyr: Andrew RT Davies
  • Plaid Cymru: Adam Price
  • Democratiaid Rhyddfrydol: Jane Dodds
  • Plaid Diddymu’r Cynulliad: Richard Suchorzewski
  • Reform UK: Nathan Gill
  • Y Blaid Werdd: Amelia Womack
  • UKIP: Neil Hamilton