Mae Cyngor Hil Cymru wedi croesawu’r euogfarn yn erbyn Derek Chauvin, y cyn-blismon a wnaeth lofruddio George Floyd ym Minneapolis, Minnesota llynedd, gan ddweud ei bod yn “gam ymlaen”.

Er hynny, dywed Natalie Jones wrth golwg360 eu bod am barhau i weld pethau’n gwella, ac am i bobol sylweddoli “fod y pethau yma wedi digwydd yng Nghymru hefyd”.

Roedd Derek Chauvin yn wynebu tri chyhuddiad mewn cysylltiad â marwolaeth George Floyd, sydd wedi arwain at brotestiadau gwrth-hiliaeth o amgylch y byd.

Cafwyd e’n euog o lofruddiaeth o’r ail radd, llofruddiaeth o’r trydydd gradd, a dynladdiad o’r ail radd, ac fe gafodd ei dywys o’r llys mewn cyffion cyn y bydd yn cael ei ddedfrydu ymhen tua deufis.

“Cam ymlaen i ddangos bod bywydau du o bwys”

“Rydyn ni’n croesawu’r euogfarn oherwydd mae’n gam ymlaen i ddangos fod bywydau du o bwys, ac nad oes hawl gan yr heddlu i ladd rhywun fel yna yn y stryd, a’i fod o’n llofruddiaeth,” meddai Natalie Jones, sy’n bennaeth Hwb Diwylliannol Cyngor Hil Cymru yng Nghaerfyrddin.

“Doedd dim hawl ganddyn nhw wneud y ffasiwn beth.

“Mae’n biti bod hyn wedi digwydd cannoedd, miloedd, o weithiau yn America, ac mae e wedi digwydd gormod o weithiau ym Mhrydain, ac yng Nghymru hefyd, a’i fod yn cymryd rhywun yn ffilmio’r digwyddiad i gael yr euogfarn.

“Ond rydym ni’n croesawu hyn, rydym ni’n falch. Mae’n gam ymlaen.”

Ma’Khia Bryant

“Mae yna hogan ddu arall wedi cael ei lladd gan yr heddlu yn America ddoe, dw i ddim yn gwybod beth ddigwyddodd ond rydym ni’n gobeithio wrth fynd ymlaen o hyn y bydd llai o hyn yn digwydd. A dim jyst pobol ddu, ond rhywun.”

Ychydig cyn i’r rheithgor ganfod Derek Chauvin yn euog o lofruddio, fe wnaeth swyddog heddlu yn Ohio saethu merch 16 oed, Ma’Khia Bryant, wrth ymateb i alwad frys.

Mae heddlu Columbus wedi cyhoeddi fideo sydd fel pe bai’n dangos y ferch yn ymosod ar bobol eraill gyda chyllell cyn cael ei saethu.

Mae’r swyddog heddlu wedi cael ei ddiarddel o’i waith gyda thâl, yn ôl adroddiadau.

“Mae’r heddlu i fod yno i edrych ar ein holau ni, er bod nhw’n gorfod defnyddio grym corfforol weithiau, rydyn ni’n deall hynny,” meddai Natalie Jones.

“Ond nid nhw ydi’r barnwr a’r rheithgor, ac ni ddylai hynny ddigwydd. Dylen nhw arestio pobol, a dylai eu bod nhw dal yn fyw erbyn eu bod nhw’n mynd i’r cwrt i gael yr un hawliau a phawb arall, a’r un cyfiawnder.”

Am i bobol “sylweddoli fod y pethau yma wedi digwydd yng Nghymru”

“Rydyn ni’n croesawu’r dyfarniad, ac rydyn ni eisiau gweld pethau’n dal i wella – mae yna dal waith i’w wneud – ac rydyn ni eisiau i bobol sylweddoli fod y pethau yma wedi digwydd yng Nghymru hefyd, ond yn anffodus nid oes neb wedi bod yno i ffilmio be ddigwyddodd yn iawn,” meddai wedyn.

“Rydyn ni eisiau gwneud yn siŵr nad ydym ni byth yn mynd mor wael â be’ mae heddlu America yn gallu bod.

“Mae yna heddlu yn gweithio gyda ni, gyda Chyngor Hil Cymru a theuluoedd du. Rydyn ni eisiau iddyn nhw sefyll lan, a bod yn gymorth i ni.

“Weithiau pan mae rhywbeth drwg yn digwydd mae’r system yn cau ei rancs, a neb eisiau siarad yn iawn am beth sydd wedi digwydd, er eu bod nhw’n gwybod ei fod yn rhywbeth drwg.

“A dyna be fysa wedi digwydd gydag [achos George Floyd] oni bai bod rhywun wedi ffilmio, ac roedd yn amlwg i bawb gael gweld.

“Rydyn ni eisiau i bawb fod yn wybodus fod hyn yn digwydd, ond am heddiw – dathlu, bod yn ddiolchgar o’r euogfarn, a bod y system y tro hyn yn dangos fod bywydau du o bwys.”

Derek Chauvin yn euog o lofruddio George Floyd: gwleidyddion America’n ymateb

“Rydym ni’n gwybod fod a wnelo cyfiawnder â llawer iawn mwy nag un dyfarniad mewn un achos llys,” meddai Barack Obama