Wrth i’r sector lletygarwch baratoi i ailagor yn yr awyr agored ddydd Llun (Ebrill 26), mae sawl cwmni yn dweud eu bod nhw’n edrych ymlaen at gael dychwelyd “at ychydig bach o normalrwydd”.

Cafodd y newyddion ei gadarnhau gan Mark Drakeford neithiwr (nos Lun, Ebrill 19), ac fe gyhoeddodd fod chwe pherson o unrhyw aelwyd yn cael cymysgu tu allan o ddydd Sadwrn (Ebrill 24) ymlaen.

Er bod cwmnïau lletygarwch ar y cyfan yn edrych ymlaen at gael ailagor, mae ambell un yn teimlo ychydig yn bryderus.

Tra bod un rheolwr yn falch bod y sector yn ailagor tu allan cyn cael cynnig gwasanaeth tu mewn, dywedodd perchennog arall ei bod hi’n gobeithio am gyhoeddiad ynghylch ailagor tu mewn yn fuan.

Ar hyn o bryd, dydy’r rheolau ar gyfer cyfarfod dan do ddim wedi newid.

Falch bod y sector yn ailagor “tu fas cyn tu mewn”

Mae Cletwr yn fenter ddielw sydd wedi’i sefydlu i ddod â’r gymuned at ei gilydd i ddiogelu cyfleusterau a gwasanaethau hanfodol yn yr ardal, ac mae yna gaffi a siop ar y safle yn Nhre’r-ddôl.

“Mae wedi bod yn anodd yr wythnos yma gan fod pethau ar agor yn Lloegr, ond rydw i’n edrych ymlaen at gael staff yn ôl,” meddai Karen Evans, rheolwraig Cletwr sydd rhwng Aberystwyth a Machynlleth, wrth golwg360.

“Dydy llawer o’r staff a’r gwirfoddolwyr heb weld ei gilydd ers y Nadolig, felly rydyn ni’n edrych ymlaen, ond rydw i ychydig bach yn bryderus.

“Dw i’n teimlo’n well yr wythnos yma gan fod posib cael lateral flow tests i’r staff a’r gwirfoddolwyr. Mae hynna’n gwneud i mi deimlo ychydig bach yn well, os fydda i’n gwybod bod y staff i gyd yn testio’u hunain.”

Esboniodd Karen Evans wrth golwg360 fod siop Cletwr wedi bod ar agor drwy gydol y pandemig, ac y byddan nhw’n dechrau cynnig bwyd eto ddydd Gwener nesaf (Ebrill 30).

Baby steps dw i’n ddweud am bopeth, er mwyn bod pawb yn teimlo’n saff,” meddai.

“Dw i’n falch ein bod ni’n agor tu fa’s cyn tu mewn, wir i ti.

“Mae lot o bobol wedi bod yn hunanynysu, neu heb weithio o gwbl, ac rydw i’n gwybod y bydd hi’n brysur.

“Dw i’n falch ein bod ni’n agor tu fa’s yn gyntaf i gael hyder pawb yn ôl, ac i weld llawer o bobol.

“Mae hi’n ŵyl y banc y penwythnos hwnnw, ac rydym ni mor agos at Ynyslas a’r môr – mae pawb yn dod yma.

“Bydd lot o bobol o gwmpas, mae’r rhan fwyaf ohonyn nhw’n fine, ond mae yna un neu ddau fydd bob tro ddim yn neis iawn.

“Ond, bydd hi’n neis cael bach o normalrwydd.”

“Rhaid gweddïo am y tywydd”

Dywed Iola Huws, un o berchnogion Gwinllan a Pherllan Pant Du yn Nyffryn Nantlle, ei bod hi’n “edrych ymlaen,” a’i bod yn “gyffrous” cael ailagor y tŷ bwyta.

“[Rydyn ni’n] edrych ymlaen at weld pobol, rydyn ni wedi colli pawb,” meddai wrth golwg360.

“Mae hi wedi bod mor ddistaw yma fwy na dim, felly rydyn ni’n edrych ymlaen at groesawu pobol yn ôl, a chael bywyd ychydig bach yn fwy normal yn ei ôl.

“Ond hefyd, mae’n rhaid gweddïo am y tywydd – gan obeithio y cawn ni dywydd braf fel y mae hi wythnos yma.

“Mae’n siŵr ’mod i [ychydig yn nerfus] am ein bod ni wedi cau ers tipyn go lew.

“Oherwydd hynny, rydyn ni gyd yma wythnos yma’n paratoi i ailagor, ac mae yna ychydig bach o nerfusrwydd – fel ein bod ni’n agor busnes newydd am y tro cyntaf eto, ac yn trio cofio pob dim,” eglurodd, gan ychwanegu fod y bwyty ar gau ers cyn y Nadolig.

“Rydyn ni’n brysur, mae ambell i ddiwrnod wedi bwcio i fyny yn barod. Rydyn ni’n eithaf llawn, a bod yn onest.

“Be rydyn ni rŵan yn gobeithio amdano ydi y cawn ni dipyn o newyddion da ein bod ni’n cael ailagor tu mewn yn handi hefyd.

“Hynny rydyn ni eisiau, cael newyddion da go iawn.”

Cyn cyhoeddiad Mark Drakeford am ailagor y sector yn yr awyr agored, fe wnaeth Plaid Cymru alw am ailagor lletygarwch dan do ar Fai 17.

Mae tasglu twristiaeth a gafodd ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru wedi galw ar y prif weinidog i agor lletygarwch dan do yn gynharach, ac mae’r Ceidwadwyr Cymreig am weld Cymru’n dilyn gweddill y Deyrnas Unedig.