Er gwaetha’ ymdrechion parhaus i’w thanseilio, mae Anna Fôn yn dweud ei bod wedi ymrwymo’n llwyr i sicrhau bod baner YesCymru yn chwifio ar ben Dinas Dinlle.

Ym mis Ionawr eleni, fe wnaeth yr ymgyrchydd annibyniaeth, sydd yn wraig i’r seren bop hynod adnabyddus, Bryn Fôn, osod baner ar dop y fryngaer ger Caernarfon.

Baner YesCymru yw hi, ac fe’i gosodwyd yno er cof am y diweddar Mirain Llwyd Owen, un o aelodau cyntaf y mudiad annibyniaeth (rhif 24).

Cafodd y faner gyntaf honno ei thaflu dros y dibyn gan rywun, ond mi gododd Anna Fôn faner newydd yn ei lle yn fuan wedi hynny.

Mae cyfres o ymdrechion wedi bod i rwygo’r faner o’i safle – ond mae’r ymgyrchydd a’i gŵr wedi bod yn ddyfal wrth sicrhau bod baner yn chwifio ar ben y fryngaer.

Ac er nad oes baner yn chwifio yno ar hyn o bryd, mae hi’n addo y bydd un arall yn cyhwfan yno yn ddigon buan!

“Oherwydd lleoliad y faner mae o’n le da i dynnu llun,” meddai wrth golwg360. “Felly mae llwythi o bobol wedi bod fyny yna yn tynnu lluniau efo’r faner.

“A phob tro roeddwn ni’n dod i fyny roedd pobol yn gefnogol. Os oedden ni yna yn rhoi un i fyny roedd pobol yn gefnogol iawn o beth roedden ni’n neud.

“Roedd pawb wnaethon ni siarad efo yn gefnogol… Dydan ni ddim yn siŵr pwy sy’n [difrodi’r baneri] a deud y gwir. Ond yn amlwg, ‘sŵn i’n deud, rhywun lleol.

“Does dim [baner] i fyny ar y funud. Ond dw i’n siŵr neith o [godi] eto!”

Saga’r baneri

Cafodd y faner gyntaf ei thaflu dros y dibyn, a chafodd yr ail ei dwyn. Cafodd y drydedd faner ei llifo i lawr dros nos, a chafodd y bedwaredd ei llifo i lawr yng ngolau dydd.

“Roedd o’n rhyfedd pan aeth y faner olaf i lawr, achos roeddwn i’n aros yn y cyffiniau,” meddai Anna Fôn. “Roeddwn yn gallu cerdded draw i Ddinas Dinlle.

“Wnaethon ni fynd draw am dro yn Ninas Dinlle ac wrth adael y tŷ roeddwn yn gallu gweld y faner ar y bryn – ond erbyn i ni gyrraedd lan y môr roeddwn ni’n gweld bod o wedi mynd!”

Ar ôl y drydedd gwaith iddi gael ei dwyn wnaeth Anna Fôn benderfynu gosod rhubanau ar y ffens wrth waelod y faner, gan feddwl y byddai’n anoddach eu fandaleiddio.

“Wnes i benderfynu allan ni rhoi cwpwl o rhubannau fyny beth bynnag,” meddai. “Dw i’m yn gweld nhw’n tynnu rheiny i lawr. Mae’r rheiny wedi aros i fyny hyd yn hyn.

“Wnes i roi cwpwl i fyny ac mae llwyth o bobol wedi rhoi rhai ers hynny. Yn naturiol mae rhai yn chwythu i lawr yn y gwynt. Ond mae’r rheina yn cael llonydd.”

#MerchedDrosMirain

Roedd Anna Fôn eisoes yn nabod Mirain Llwyd Owen trwy waith teledu, ond mi ddaeth y ddwy i nabod ei gilydd yn well yn aelodau o gangen YesCymru Caernarfon.

Mae Anna Fôn yn sôn am ei “hedmygedd” tuag yr actores a’r sgriptwraig, ac mae Bryn Fôn wedi bod yn rhannu lluniau ar Twitter â’r hashnod “#MerchedDrosMirain”.

“Roeddwn i’n teimlo bod rhaid cofio hi am ei bod hi wedi bod mor ddewr yn yr adeg yna [yn dilyn ei diagnosis canser],” meddai Anna Fôn am ei chyfaill.

Yr actores a’r sgriptwraig Mirain Llwyd Owen wedi marw’n 47 mlwydd oed

Roedd Mirain Llwyd Owen yn adnabyddus am ei phortread o Delyth Haf yn ‘Tydi Bywyd yn Boen’ a ‘Tydi Coleg yn Grêt’