Enghraifft o wastraff anghyfreithlon (Llun Llywodraeth Cymru)
Mae rheolau newydd wedi cael eu cyflwyno heddiw allai weld cwmnïau’n cael eu cosbi’n llymach am dorri rheolau amgylcheddol wrth gael gwared â gwastraff.

Fe fdd pwerau Cyfoeth Naturiol Cymru yn cael eu cryfhau o heddiw ymlaen, fel eu bod yn gallu gweithredu’n gynt ac yn fwy effeithiol i gosbi drwgweithredwyr ac atal trwyddedau cwmnïau sy’n troseddu.

Mae’r corff eisoes wedi bod yn llwyddiannus yn cosbi rhai cwmnïau yn ddiweddar am droseddau fel storio teiars neu gael gwared â gwastraff yn anghyfreithlon ac am gynnal cyfleusterau gwastraff a iardiau sgrap heb drwydded.

Ond mae rhai o’r achosion hynny wedi cymryd blynyddoedd i’w datrys, a’r gobaith yw y bydd y pwerau newydd yn cyflymu’r broses.

Pedwar pŵer newydd

Yn ôl Llywodraeth Cymru mae’r cwmnïau “annibynadwy” hynny yn gyfrifol am “lygru’r amgylchedd, peryglu iechyd dynol ac achosi arogleuon a phroblemau niwsans i’r gymuned leol”, yn ogystal â thanseilio busnesau safonol wrth gynnig prisiau is.

Fe fydd y rheolau newydd yn caniatáu i Gyfoeth Naturiol Cymru

  • Atal trwydded pan fydd cwmni wedi torri amod a bod perygl o lygru
  • Galluogi Cyfoeth Naturiol Cymru i gymryd camau i ddileu perygl difrifol o lygru
  • Wneud cais i’r Uchel Lys yn rhwyddach i ofyn am waharddeb i orfodi cydymffurfio â rhybudd gorfodi neu atal.

‘94% yn onest’

Dywedodd y Gweinidog Cyfoeth Naturiol Carl Sargeant y byddai’r rheolau newydd yn sicrhau nad oedd modd i gwmnïau anonest barhau i droseddu, gan awgrymu y byddai deddfwriaeth bellach yn cael ei chyflwyno ar y mater y flwyddyn nesaf.

“Mae tua 94% o gwmnïau rheoli gwastraff yng Nghymru yn gwmnïau da, gonest, felly dim ond cyfran fechan o’r perfformwyr gwael hyn a’r troseddwyr gwastraff sydd angen inni fynd i’r afael â hwy,” meddai Carl Sargeant.

Ychwanegodd Emyr Roberts, Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru, y byddai swyddogion nawr yn medru erlyn cwmnïau gwastraff anghyfreithlon yn haws.

“Gall troseddau gwastraff fod yn beryglus i’r amgylchedd ac i iechyd pobl.  Rydym yn benderfynol o wneud yn siŵr nad oes modd elwa o droseddau gwastraff,” meddai Emyr Roberts.